Henffordd 2–3 Casnewydd

Cafwyd diweddglo dramatig yn Stryd Edgar nos Fawrth wrth i Gasnewydd sgorio tair gôl yn yr ugain munud olaf wrth guro Henffordd yn Uwch Gynghrair y Blue Square.

Sgoriodd Joshua O’Keefe ddwywaith o’r smotyn i’r tîm cartref gyda Lee Minshull yn rhwydo i Gasnewydd rhwng y ddwy. Yna, sgoriodd Minshull eto ddeg munud o’r diwedd cyn i Robbie Willmott gipio’r tri phwynt i’r Cymry yn y trydydd munud o amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm.

Ildiodd amddiffynnwr Casnewydd, David Pipe, dair cic o’r smotyn i gyd! Ildiodd y gyntaf bum munud cyn yr egwyl am drosedd ar Marlon Jackson ond llwyddodd Lenny Pidgeley i arbed cynnig Marley Watkins o ddeuddeg llath.

Ond cafodd Henffordd gyfle arall ddau funud yn ddiweddarach pan lawiodd Pipe, a sgoriodd O’Keefe y tro hwn.

Peniodd Minshull Casnewydd yn gyfartal yn yr ail hanner cyn i O’Keefe sgorio o’r smotyn eto yn dilyn mwy o lawio gan Pipe.

Mynydd i’w ddringo i Gasnewydd yn y deg munud olaf felly ond unionodd Minshull am yr eildro pan beniodd groesiad Andy Sandell ac roedd diweddglo dramatig i ddilyn.

Eiliadau yn unig o’r gêm oedd ar ôl pan ddaeth Michael Flynn o hyd i Willmott ar ochr y cwrt cosbi a sgoriodd yr eilydd gan gipio’r tri phwynt i’w dîm.

Mae’r canlyniad yn cadw Casnewydd yn drydydd yn nhabl y Gyngres ond dim ond tri phwynt sydd yn gwahanu’r tri uchaf ac mae gan Gasnewydd sawl gêm wrth gefn.

.

Henffordd

Tîm: Bittner, Graham, Stam, Musa, Connor, Watkins (Smikle 58′), James, Clucas, O’Keefe, Jackson (Carruthers 82′) Sharp

Goliau: O’Keefe [c.o.s.] 42’, [c.o.s.] 75’

Cardiau Melyn: O’Keefe 61’, Bittner 64’

.

Casnewydd

Tîm: Pidgeley, James, Yakubu, Anthony, Pipe, Minshull, Sandell, Flynn, Jolley, Crow (Willmott 67′), Griffiths (Donnelly 58′)

Goliau: Minshull 72’, 81’, Willmott 90’

Cardiau Melyn: Sandell 35’, Willmott 90’

.

Torf: 2,519