Wrecsam 4–1 Ebbsfleet
Mae gan Wrecsam dri phwynt o fantais ar frig Uwch Gynghrair y Blue Square yn dilyn buddugoliaeth gyfforddus yn erbyn Ebbsfleet ar y Cae Ras nos Fawrth.
Sgoriodd y Dreigiau bedair yn yr hanner cyntaf i sicrhau’r tri phwynt yn eu gêm hwy ac aeth canlyniadau eraill o’u plaid hefyd wrth iddynt sefydlu bwlch ar frig y Gyngres.
Rhwydodd Dele Adebola y gyntaf wedi llai na thri munud o’i ymddangosiad cyntaf ers ymuno ar fenthyg o Rochdale ac fe ddyblodd Brett Ormerod y fantais wedi deg munud.
Chwaraewr arall sydd wedi creu cryn argraff ers ymuno â’r Dreigiau yn ddiweddar yw Kevin Thornton a sgoriodd y chwaraewr canol cae eto gydag ergyd dda o ddeunaw llath toc cyn hanner awr o chwarae.
A doedd dim amheuaeth am y canlyniad erbyn hanner amser wedi i Robert Ogleby ychwanegu pedwaredd ar ôl dod i’r cae fel eilydd yn lle Adebola.
Tynnwyd ychydig bach o’r sglein oddi ar y canlyniad pan sgoriodd Nathan Elder gôl gysur hwyr i Ebbsfleet, ond roedd y gêm drosodd erbyn hynny.
Mae’r canlyniad hwn ynghyd â buddugoliaeth Gateshead yn erbyn Kidderminster yn golygu fod gan y Dreigiau dri phwynt o fantais ar frig y Gyngres bellach.
.
Wrecsam
Tîm: Maxwell, Wright, Ashton, Westwood, Artell, Keates (Little 68′), Clarke, Thornton, Wright (Morrell 52′), Ormerod, Adebola (Ogleby 30′)
Goliau: Adebola 3’, Ormerod 11’, Thornton 29’, Ogleby 45’
.
Ebbsfleet
Tîm: Edwards, Lorraine, Gwillim, Saville (Azeez 33’) Phipp, Barrett, Carew, Shitta (Bellamy 46′), Walsh, Marum (Alabi 66′), Elder
Gôl: Elder 77’
Cerdyn Melyn: Barrett 84’
.
Torf: 2,390