Caerdydd 1–1 Derby

Mae mantais Caerdydd ar frig y Bencampwriaeth i lawr i bum pwynt yn dilyn gêm gyfartal yn erbyn Derby yn Stadiwm y Ddinas nos Fawrth.

Gallai pethau fod wedi bod yn waeth i’r Adar Gleision wedi i Connor Sammon roi’r ymwelwyr ar y blaen chwarter awr o’r diwedd, ond llwyddodd Craig Noone i achub pwynt i’r tîm cartref saith munud yn ddiweddarach.

Derby a gafodd y gorau o’r gêm ac roeddynt yn llawn haeddu mynd ar y blaen pan rwydodd Connor Sammon wedi 75 munud. Rhwydodd y blaenwr yn dilyn gwaith da gan Ben Davies ar yr asgell ac roedd hi’n ymddangos fod Caerdydd am golli am yr ail gêm gartref yn olynol.

Ond roedd Noone yn creu argraff ar ôl dod i’r cae fel eilydd yn lle Tommy Smith a llwyddodd i unioni’r sgôr gyda pheniad postyn pellaf o groesiad Andrew Taylor ychydig funudau o’r diwedd.

A bu bron i Noone gipio’r pwyntiau i gyd yn yr eiliadau gydag ergyd wych o ochr y cwrt cosbi ond crymanodd ei ergyd fodfeddi heibio’r postyn.

Noson gymysg oedd hi i’r Adar Gleision o ran canlyniadau eraill yn y Bencampwriaeth wrth i Hull golli ond Watford yn ennill. Golyga hynny fod mantais Caerdydd i lawr ar y brig i lawr i bump.

.

Caerdydd

Tîm: Marshall, Taylor, Turner, Connolly, Nugent, Whittingham, Conway (Gestede 84′), Gunnarsson, Smith (Noone 72′), Helguson (Mason 76′), Campbell

Gôl: Noone 82’

Cardiau Melyn: Gunnarsson 19’, Smith 59’

.

Derby

Tîm: Legzdins, Roberts, Buxton, Keogh, Gjokaj, Coutts, Hendrick, Davies, Forsyth (Jacobs 71′), Martin, Sammon

Gôl: Sammon 75’

Cardiau Melyn: Gjokaj 13’, Coutts 51’

.

Torf: 21,544