Mae Undeb Rygbi Cymru wedi annog cefnogwyr i beidio â phrynu tocynnau ar gyfer y gêm rhwng Cymru a Lloegr ar y farchnad ddu.
Mae ymchwil gan yr Undeb yn dangos bod nifer o wahanol wefannau a chanolfannau eraill yn gwerthu’r tocynnau am bris llawer uwch na’r gofyn, ac mae yna bryderon nad yw rhai o’r tocynnau’n ddilys.
Dywedodd yr Undeb fod nifer o docynnau wedi cael eu gwerthu ar-lein eisoes am fwy na £500.
Tyngedfennol
Fe allai’r gêm rhwng Cymru a Lloegr fod yn dyngedfennol – mae Lloegr yn mynd am y Gamp Lawn ond fe allai Cymru eu rhwystro a chipio’r Bencampwriaeth hefyd.
Dyw gwerthu tocynnau ymlaen i rywun arall ar ôl eu prynu nhw o ganolfan ddilys ddim yn gyfreithlon, ac mae’r Undeb wedi dweud bod ganddyn nhw reolau llym i gosbi unrhyw un sy’n gweithredu yn y fath fodd.
Mewn datganiad, fe ddywedodd Prif Weithredwr yr Undeb, Roger Lewis, fod tocynnau lletygarwch ar gael o hyd i gêm Lloegr am bris rhwng £379 a £399 – llai na phris rhai tocynnau ar y farchnad ddu.