Alun Wyn Jones
Mae tri newid yn nhîm Cymru i wynebu’r Alban yn Murrayfield ddydd Sadwrn.

Daw’r clo profiadol, Alun Wyn Jones yn ôl i’r tîm yn lle Andrew Coombs.

Fe fydd y cyn-gapten Sam Warburton yn y rheng ôl o’r dechrau yn lle Justin Tipuric ond Ryan Jones fydd y cgapten

Mae’r prop Gethin Jenkins allan oherwydd anaf a Paul James i mewn yn ei le.

Alun Wyn v Andrew

Daeth Jones i’r cae yn eilydd yn ystod y gêm yn erbyn Yr Eidal, ac fe chwaraeodd e i’r Gweilch yn erbyn Munster dros y penwythnos.

Roedd wedi bod allan gydag anaf i’w ysgwydd, ond fe fydd ei weld e’n dychwelyd yn hwb i’r hyfforddwr dros dro, Rob Howley, sy’n chwilio am drydedd buddugoliaeth o’r bron oddi cartref yn y gystadleuaeth.

Cymru:

Olwyr: Leigh Halfpenny, Andrw Cuthbert, Jonathon Davies, Jamie Roberts, George North.

Haneri: Dan Biggar, Mike Phillips

Blaenwyr: Paul James, Richard Hibbard, Adam Jones, Alun Wyn Jones, Ian Evans, Ryan Jones, Sam Warburton, Toby Faletau.