Llun gyda'r cyhoeddiad o wefan Undeb Rygbi Cymru
Mae hyfforddwr tîm merched Cymru, Rhys Edwards wedi gwneud pump newid i’r tîm a drechodd Yr Eidal yn eu gêm ddiwethaf.
Ac mae’n dweud mai’r her benna’ fydd gwneud yn siŵr eu bod nhw’n cymryd cyfleoedd i sgorio.
- Yn y rheng flaen, daw’r prop Megan York a’r bachwr Carys Phillips i mewn yn lle Jenny Davies a Lowri Harries.
- Daw Vicky Owens i mewn i’r ail reng yn lle Gemma Hallett.
- Sioned Harries sy’n dod i mewn i’r rheng ôl yn lle Catrina Nicholas.
- Ymhlith yr olwyr, caiff yr asgellwr Rafiuke Taylor ei disodli gan Caryl James, tra bod Charlie Murray yn dod i mewn ar y fainc.
Dywedodd Rhys Edwards: “Fel carfan, rydyn ni bob amser wedi siarad am ‘berfformiad’ ac er ein bod ni dan bwysau yn erbyn Ffrainc, gawson ni dipyn o hyder o’n buddugoliaeth yn erbyn Yr Eidal lle gwnaeth y merched jobyn dda.
“Wrth fynd i mewn i’r gêm yn erbyn Yr Alban, rhaid i ni gynnal y lefelau am yr 80 munud cyfan. Roedd gyda ni dipyn o feddiant yn erbyn Yr Eidal ond fe wnaethon ni lanast o bum cyfle clir i sgorio.