Ryan Giggs (Gordon Flood CCA 2.0)
Mae’n edrych yn sicr y bydd y Cymro Ryan Giggs yn chwarae ei filfed gêm o bêl-droped proffesiynol ar y lefel ucha’.
Fe gadarnhaodd rheolwr Manchester United, Alex Ferguson, y bydd y chwaraewr canol cae yn cael rhan yn y gêm fawr yn erbyn Real Madrid.
Fe allai hynny fod o’r dechrau neu trwy fod ar y fainc, meddai, ond fe fyddai profiad Giggs yn hanfodol y naill ffordd neu’r llall.
‘Giggs yn falch’
Dywedodd Giggs ei fod yn falch iawn o’i gamp ac nad oedd erioed wedi meddwl y byddai’n cyrraedd 1000 o gêmau proffesiynol.
Mae ei yrfa wedi denu teyrngedau gan lu o enwogion yn ystod yr wythnos ddiwethaf gan gynnwys llywydd FIFA, Sepp Blatter.
Hyd yn oed ar y cae, fel yn y Bernabeu wythnos yn ôl, cafodd Giggs gymeradwyaeth frwd gan gefnogwyr cartref Real Madrid oedd yn cydnabod ei yrfa arbennig.
Ai dyma’r mil?
Bellach, mae yna amheuon ai dyma fydd y filfed gêm – pe bai gêmau ieuenctid Cymru’n cael eu cynnwys, fe fyddai eisioes wedi croesi’r trothwy.