Fe fydd Ryan Giggs yn chwarae ei 1000fed gêm broffesiynol yfory, pan fydd Manchester United yn croesawu Real Madrid i Old Trafford.
Fe fydd Manchester United yn ceisio ennill eu lle yn rownd nesa’ Cynghrair y Pencampwyr, gyda’r sgôr ar hyn o bryd yn 1-1 ar ôl y cymal cynta’. Mewn cynhadledd i’r wasg heddiw, dywedodd rheolwr y cochion, Syr Alex Ferguson, y byddai profiad y Cymro’n hanfodol i’r cochion mewn gêm mor fawr.
“Fe fydd o’n chwarae rhyw ran yn y gêm yfory,” meddai, “un ai yn dechrau neu ar y fainc, dydw i ddim yn hollol siwr… Fe fydd ei brofiad mewn gemau fel hyn yn hollbwysig i ni.”
Mae Giggs wedi chwarae 931 o weithiau dros Manchester United, 64 o weithiau dros Gymru a 4 o weithiau i dîm y Deyrnas Unedig, gan ddod â’i gyfanswm gemau i 999.
Yr wythnos ddiwetha’, fe arwyddodd y canolwr estyniad i’w gytundeb a fydd yn ei gadw yn Old Trafford tan ddiwedd tymor 2013-2014, pan fydd yn 40 oed.
Mae Giggs wedi chwarae i Man U am 23 tymor yn olynol, gan sgorio ym mhob un tymor, ac mae wedi sgorio cyfanswm o 168 o goliau yng nghrys coch Man U.