Mae gornest focsio y Cymro, Nathan Cleverly, wedi ei gohirio am fis, oherwydd fod bocsiwr arall oedd fod i ymladd ar yr un noson, yn sâl.
Roedd Cleverly i fod i amddiffyn ei deitl pwysau gordrwm yn erbyn Robin Krasniqi ar 16 Mawrth yn Wembley, ond cyhoeddwyd heddiw na fyddai’r ornest yn mynd yn ei blaen ar y dyddiad hwnnw.
Roedd Ricky Burns a Miguel Vazquez hefyd i fod i ymladd ar y noson, ond mae Vazquez, o Fecsico yn dioddef o salwch, ac wedi gorfod tynnu allan.
Gohirio
Dywedodd yr hyrwyddwr, Frank Warren, ar ei wefan heddiw: “Mae’n anffodus bod Vazquez wedi tynnu’n ôl mor agos i’r ornest, ond mae’n rheswm meddygol, sy’n rhywbeth na allwn ei reoli.
“Bydd Cleverly yn ddiolchgar am y gohiriad, oherwydd mae wedi bod yn dioddef o salwch ac wedi methu ymarfer am 5 diwrnod wythnos ddiwethaf. Bydd y gohiriad yn sicrhau ei fod yn holliach ar gyfer y dyddiad newydd.”
Dywedodd Warren y byddai pob tocyn yn ddilys ar gyfer y dyddiad newydd – sef Ebrill 20.