Nid dim ond tîm pêl-droed Abertawe sy’n llwyddo ym myd chwaraeon ar hyn o bryd – gan fod nofwyr y brifysgol wedi dychwelyd o gystadleuaeth gyda’r nifer fwyaf o fedalau erioed.
Mewn cystadleuaeth rhwng holl brifysgolion Prydain yn Sheffield wythnos diwethaf, llwyddodd Prifysgol Abertawe i ennill 15 o fedalau, a gorffen yn ail allan o holl brifysgolion y wlad. Prifysgol Loughborough ddaeth i’r brig.
Ymysg yr enillwyr oedd Alice Tennant a Georgia Davies i’r merched, y ddwy yn cipio medalau aur yn y gornestau 400m cymysg, a 50m cefn. Llwyddodd Adam Mallett i ennill medal arian yn y ras 200m pili-pala.
Roedd hefyd medalau arian i dimau’r Brifysgol, gyda pherfformiadau da yn y ras 4x100m gan y merched, a 4x100m cymysg gan y bechgyn.
Dywedodd Stuart McNarry, hyfforddwr Nofio Cymru:
“Hon yw’r gystadleuaeth fwyaf llwyddiannus ers i Nofio Cymru a Nofio Prydain weithio mewn cysylltiad hefo’r Brifysgol. Mae’r canlyniadau yn addawol ar gyfer haf llwyddiannus o gystadlu yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.”