Mae Gleision Caerdydd wedi arwyddo’r chwaraewr rhyngwladol Filo Paulo, cyn ail-reng Auckland Blues.
Roedd Filo Paulo yn rhan o dîm Samoa wnaeth guro Cymru o 26 pwynt i 19 yn Stadiwm y Mileniwm ym mis Tachwedd.
Wrth siarad am y symudiad dywedodd Filo Paulo:
“Rwy’n llawn cyffro wrth ymuno â Gleision Caerdydd. Rwy’n gwybod bod llawer o chwaraewyr mawr wedi gwisgo lliwiau’r y tîm felly rwy’n ddiolchgar iawn am y cyfle hwn a byddaf yn rhoi fy oll er mwyn cyrraedd y safonau uchel sy’n cael eu gosod gan y chwaraewyr, y staff hyfforddi a’r cefnogwyr.
“Mae Caerdydd yn ddinas wych ac mae’r bobl yn gyfeillgar iawn fydd yn gwneud y symud i Gymru yn llawer haws.”
Yn enedigol o Wellington, Seland Newydd mae Filo Paulo wedi cael ei gapio 26 gwaith i Auckland Blues ac wedi gwneud 35 o ymddangosiadau i North Harbour yng nghystadleuaeth Cwpan ITM ers 2008. Roedd yn chwarae i Ulster yn gynnar yn ei yrfa cyn iddo symud nôl i Seland Newydd.
‘Ychwanegiad cryf’
Dywedodd Prif Weithredwr Gleision Caerdydd Richard Holland:
“Bydd Filo yn ychwanegiad cryf i’n carfan ac rydym yn falch ein bod ni wedi gallu sicrhau ei wasanaeth ar ôl trafodaethau hir gyda’i bobl yn Seland Newydd.
“Roedd y Gleision yn edrych arno cyn iddo ddod yn chwaraewr rhyngwladol yn yr Hydref oedd yn rhan o dîm Samoa a chwaraeodd yn erbyn Ffrainc, Canada a Chymru.
Dywedodd Cyfarwyddwr Rygbi Gleision Caerdydd, Phil Davies,,
“Dim ond 24 mlwydd oed yw Filo ac mae wedi chwarae yn y Super 15 i’r Auckland Blues ac wedi chwarae rygbi rhyngwladol dros Samoa.
“Mae ganddo’r proffil oedran cywir ac mae ganddo record anaf berffaith – mae’n hynod o ffit yn gorfforol.”