Elfyn Llwyd
Bydd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan yn dweud heddiw bod gwaith y Comisiwn Silk sy’n ymchwilio i rymoedd pellach i Gymru yn hanfodol ar gyfer y cam nesaf yn hanes y wlad.

Mae disgwyl i Elfyn Llwyd, Aelod Seneddol Dwyfor Meirionydd, ddatgan yn ei araith yng nghynhadledd Gwanwyn Plaid Cymru ym Miwmares fod y Comisiwn yn cynnig cyfle i Gymru “arwain ei thynged ei hun.”

Mae’r Comisiwn Silk wedi cyhoeddi ei adroddiad cyntaf, yn argymell rhoi mwy o bwerau i Lywodraeth Cymru i fenthyg arian ac i gael mwy o reolaeth ar drethu. Bydd y Comisiwn yn cyhoeddi ei ail adroddiad mewn blwyddyn.

Bydd Elfyn Llwyd yn dweud fod ymateb Plaid Cymru i’r Comisiwn wedi bod yn bositif, yn wahanol i’r Blaid Lafur “sydd yn cymryd un cam ymlaen ac yna dau gam yn ôl.”

Bydd yn dweud fod y tirlun gwleidyddol yn y Deyrnas Unedig yn newid yn ddi-alw’n-ôl ac mae’n hanfodol fod Cymru yn cadw i fyny â’r newid hwnnw. Rhaid i Blaid Cymru anelu at fod mewn grym yn 2016, meddai.