Arlywydd Obama
Mae Arlywydd Obama wedi rhoi sêl bendith ar doriadau enfawr a all gael effaith mawr ar economi’r Unol Daleithiau.

Fe lofnododd orchymyn i awdurdodi’r toriadau ar ôl iddo yntau a’i wrthwynebwyr o’r blaid Weriniaethol fethu â chytuno ar gyfaddawd a fyddai wedi atal y toriadau.

Mae’r Arlywydd a’r Gweriniaethwyr wedi bod yn trafod y toriadau ers dwy flynedd. Roedd ganddyn nhw hyd at hanner nos neithiwr i ddod i gytundeb. Gan na lwyddon nhw i gytuno, roedd y toriadau enfawr yn dod i rym.

Mae’r toriadau wedi cael eu cynllunio i arbed 85 biliwn o ddoleri. Mae dyledion y wlad wedi cyrraedd cyfanswm o 16.6 triliwn o ddoleri.

Fe lofnododd yr Arlywydd y gorchymyn yn  anfoddog ac mae wedi beirniadu’r Gweriniaethwyr am eu hamharodrwydd i gyfaddawdu. Roedd Obama wedi mynnu y byddai’n rhaid codi trethi fel rhan o unrhyw gynllun i leihau dyled y wlad ond nid oedd y Gweriniaethwyr yn fodlon derbyn hynny.

Mae Arlywydd Obama wedi rhybuddio y gall y toriadau arwain at golli 750,000 o swyddi.