Osian a Rhys o'r band Jessop a'r Sgweiri
Cân i Gymru

Enillydd Cân i Gymru 2013 neithiwr oedd dau fyfyriwr ym Mhrifysgol Bangor, Rhys Gwynfor ac Osian Huw Williams, a’u band Jessop a’r Sgweiri gyda’r gân Mynd i Gorwen Hefo Alys.

Mae Rhys yn astudio gradd MA mewn Ysgrifennu Creadigol ac mae Osian yn ei ail flwyddyn yn y Brifysgol, yn astudio cwrs gradd mewn Cerddoriaeth. Mi wnaethon nhw ennill £3,500 a’r cyfle i gynrychioli Cymru yn yr Ŵyl Ban Geltaidd yn Iwerddon.

Cafodd y gystadleuaeth ei chynnal yn y Gyfnewidfa Lo, Caerdydd eleni a’i darlledu’n fyw ar S4C gydag Elin Fflur a Dafydd Du yn cyflwyno.

Roedd chwe chân yn cystadlu am y wobr, a daeth y gân Mynd i Gorwen Hefo Alys i’r brig wrth iddi dderbyn y nifer uchaf o bleidleisiau, oedd yn gyfuniad o bleidlais ffôn y gwylwyr a sgôr gan y panel o feirniaid, sef Lisa Gwilym, Gai Toms, Griff Lynch a Gwilym Dwyfor.

Roedd trefn newydd i’r gystadleuaeth eleni gyda’r chwech oedd ar y rhestr fer yn cael cymorth gan S4C i recordio eu cân mewn stiwdio o’u dewis eu hunain. Mi wnaeth Jessop a’r Sgweiri recordio eu trac nhw yn stiwdio Tŷ Siamas, Dolgellau. Osian a Rhys wnaeth gynhyrchu eu hunain gyda chymorth Ifan Jones, aelod arall o’r Sgweiri, a pheiriannydd y band.

“Llongyfarchiadau mawr i Rhys, Osian a Jessop a’r Sgweiri am eu gwaith arbennig sydd wedi cael cydnabyddiaeth gan wylwyr S4C a’r arbenigwyr ar banel y rheithgor,” meddai Comisiynydd Adloniant S4C, Gaynor Davies.

“Roedd hi hefyd yn braf cael cyd-weithio ag Y Selar a BBC Radio Cymru wrth i ni ehangu cefnogaeth y gystadleuaeth i’r Sîn Roc Gymraeg.”

Fe allwch chi wrando ar y gân fuddugol ar wefan Cân i Gymru – s4c.co.uk/canigymru

Gwobrau Selar

Yn ogystal â dewis enillydd Cân i Gymru 2013, roedd dau o Wobrau Y Selar a Roc a Phop BBC Radio Cymru yn cael eu cyflwyno neithiwr hefyd. Cyflwynwyd gwobrau ariannol gwerth £4,000 i rai cerddorion sydd wedi bod yn weithgar ar y sin eleni.

Yn fyw ac yn ecsgliwsif ar y noson, cyhoeddwyd mai Y Bandana sydd wedi dod i’r brig mewn dau o gategorïau Gwobrau Y Selar 2013.

Daeth y band o Gaernarfon i’r brig yn y categori Band Byw Selar 2013 a’u cân ‘Heno yn yr Anglesey’ yw Cân y Flwyddyn Selar 2013. Mae Y Bandana felly wedi ennill cyfanswm o £2,000 (£1,000 am bob categori).

Bydd gweddill enillwyr Gwobrau Selar 2013 yn cael eu cyhoeddi mewn noson wobrwyo yn Neuadd Hendre, Bangor, heno.

Cyfraniad sylweddol

Er na chynhaliwyd gwobrau Roc a Phop eleni, mae Cân i Gymru a BBC Radio Cymru wedi cyd-weithio i gyflwyno gwobr o £1,000 i gyfansoddwr/wyr sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i’r sin Gerddoriaeth Gyfoes Gymraeg.

Cafodd yr enillydd ei ddewis gan reithgor Cân i Gymru a’u dewis oedd Cowbois Rhos Botwnnog.

Yn ogystal fe gyflwynwyd gwobr o £1,000 i enillwyr categori Band a Ddaeth i Amlygrwydd Roc a Phop 2012 sef Sŵnami, wnaeth berfformio’n fyw neithiwr.

Bydd modd gwylio noson Cân i Gymru 2013 eto ar S4C nos Sul 3 Mawrth am 10.15. Neu mae’r rhaglen ar gael i’w gwylio unrhyw bryd ar-lein ar s4c.co.uk/clic