Mae cyfres Stori Sydyn 2013 ar fin cael ei lansio. Mae’n cynnwys George North yn trafod ei yrfa hyd yma, hanes Cymry Mentrus gan John Meurig Edwards a stori gan Manon Steffan Ros, Inc.

Ac yn Meddyliau Eilir mae’r digrifwr Eilir Jones yn doethinebu. Dyma damaid i aros pryd allan o’r stori Maes Awyr Môn:

Os ydach chi’n byw yng nghanolbarth Cymru rydach chi’n lwcus iawn ond yn colli un o brofiadau unigryw bywyd. Does gynnoch chi, wrth gwrs, ddim rheswm dros deithio i fyny i Sir Fôn er mwyn hedfan yn ôl lawr i Gaerdydd. Dim ond ffŵl fyddai’n gwneud.

Os cewch chi gyfle – er dydi o ddim yn gwneud synnwyr i chi drafeilio i Sir Fôn, chwaith – trïwch o unwaith. Fel dwedodd Nain, mae’n rhaid i chi drio popeth unwaith – jyst cyn iddi syrthio oddi ar y simdda wrth drio parashwtio gan ddefnyddio lliain bwrdd.

Fe sylweddolwch chi dri pheth wrth hedfan o’r gogledd i’r de. Y cynta ydi, pa mor hyfryd ydi Cymru o’r awyr. Mae hyd yn oed y Bermo yn edrych yn lle hyfryd i fyw. Yn ail, fe sylweddolwch faint o staff y Cynulliad sy’n trafeilio uwch ein pennau ni bob dydd ac yn edrych i lawr arnan ni. Ac yn drydydd, ac yn bwysicach na dim, wedi i chi gyrraedd Caerdydd, fe sylweddolwch pa mor lwcus ydach chi eich bod chi’n dal yn fyw. Tasach chi’n hedfan o Sir Fôn i Gaerdydd ac yn clywed rhywun yn eich beirniadu’n llym, tydi o ddiawl o bwys. Fedrith dim byd ladd y teimlad o hapusrwydd rydach chi’n ei gael wrth i’ch traed gyffwrdd y llawr yng Nghaerdydd.

Ar ôl mynd trwy faes awyr Môn dyma Eilir Jones yn cyrraedd yr awyren.

Dringon ni’r grisiau a’r stewardess yn ein croesawu i’r awyren, yn Gymraeg. Iaith y nefoedd, chwarae teg iddi. Ond ydach chi’n gwybod pam ei bod hi’n croesawu pawb yn iaith y nefoedd? Am fod gan y cwmni bolisi Cymraeg? Naci! Yr unig reswm oedd mai’r nefoedd oedd un o’r llefydd y gallech chi lanio yno cyn diwedd y daith. Roedd hi’n hogan iawn, cofiwch. Hogan ddigon clên. Roedd hi’n edrych yn ddigon profiadol, os ydach chi’n deall be sy gen i – roedd ei dyddiau hi efo awyrennau Virgin wedi hen basio.

Awyren fach? Tewch â sôn. Roeddwn i’n eistedd yn y tu blaen jyst y tu ôl i’r capten. Taswn i wedi bod yn agosach ato fo, mi faswn i wedi bod yn ail beilot. Roedd hi mor gyfyng yn y tu blaen nes bod rhaid imi beidio â chroesi ’nghoesau er mwyn iddo fo gael tynnu’r sbardun i godi’r awyren. Mi refiodd gymaint nes ei bod hi’n swnio fel hen Nissan Micra. Wna i byth anghofio edrych yn ôl wrth i ni gychwyn esgyn a gweld llygaid pawb ar gau. Ew, mae pawb yn eitha relaxed, meddwn i wrth y stewardess. Nac ydyn, medda hi, gweddïo maen nhw.

Meddyliau Eilir, Gwasg y Lolfa, £1.99