Mae’r Gymdeithas Deledu Frenhinol wedi cyhoeddi enwebiadau am wobrau rhaglenni gorau’r flwyddyn, ac mae dwy o raglenni S4C yn y mics.
Roedd y rhaglen Fy Chwaer a Fi yn dilyn dwy efaill sydd wedi eu heffeithio gan gyflwr niwrolegol. Mae honno wedi ei henwebu yn y categori Rhaglen Ddogfen Unigol.
Yn gynharach y mis hwn cyhoeddwyd bod y rhaglen hon hefyd wedi cyrraedd Rhestr Fer y New York Festivals Awards am raglenni sy’n rhoi sylw i achosion dynol.
Ffilm Dolig
Yr ail gynhyrchiad yn y mics yw Teulu Tŷ Crwn, ffilm deuluol sy’n dilyn hanes tri phlentyn yn ceisio ymdopi heb eu rhieni ar ddiwrnod Nadolig. Mae’r ffilm gerddorol wedi ei henwebu yng nghategori’r Ddrama Orau i Blant.
Bydd seremoni yn cael ei chyynnal ar 19 Mawrth yn Llundain, ac mae Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, Dafydd Rhys wedi dweud ei bod yn wych gweld rhaglenni S4C yn derbyn cydnabyddiaeth.
“Mae’r ddau enwebiad yn adlewyrchu’r amrywiaeth sydd ar ein Sianel, o adloniant ysgafn i’n plant, i raglenni dogfen treiddgar sy’n adlewyrchu bywyd bob dydd yng Nghymru. Mae’r enwebiadau hyn yn dangos bod rhaglenni Cymraeg ymysg y gorau sydd ar gael, mewn unrhyw iaith, ar unrhyw sianel.”