Mae beirniad canu a thiwtor llais wedi beirniadu penderfyniadau ‘gwallgof’ sy’n cael eu gwneud yn Eisteddfod yr Urdd.
Mewn llythyr at Golwg yr wythnos hon, dywed Trystan Lewis fod angen i’r Urdd “gyflwyno rhestr o feirniaid cymwys neu brofiadol, gosod ffi fesul cystadleuaeth, ynghyd â chostau teithio” er mwyn “sicrhau tegwch a safon”.
Dywed mai “diffyg profiad neu gymhwyster” sy’n gyfrifol am benderfyniadau “gwallgof” gan feirniaid yn Eisteddfodau Cylch a Sir yr Urdd.
Nid oedd Cyfarwyddwr yr Urdd, Aled Sion, eisiau ymateb i’r mater.
Darllenwch ragor yng nghylchgrawn Golwg yr wythnos hon.