Dewi Sant - ffenest wydr lliw yng Ngholeg yr Iesu Rhydychen
Mae prosiect newydd wedi cael £750,000 i gasglu’r holl wybodaeth sydd ar gael am seintiau Cymru a’i gosod ar-lein.
Y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn Aberystwyth sy’n arwain y gwaith, ar y cyd gyda King’s College, Llundain, Prifysgol y Drindod Dewi Sant a’r Llyfrgell Genedlaethol.
Yn ôl pennaeth y Ganolfan Uwchefrydiau, dyw Cymru ddim yn gwneud digon o’i seintiau, yn arbennig o gymharu â gwledydd eraill.
“Mae gyda ni dreftadaeth gyfoethog,” meddai’r Athro Dafydd Johnston. “Rhaid i ni gysylltu gyda’r gwledydd Celtaidd eraill a gwledydd yn Ewrop i ddangos beth sydd gyda ni i’w gynnig.”
Roedd yna ddiddordeb rhyngwladol yn y seintiau, meddai mewn cyfweliad ar Radio Wales ac mae’n dweud fod ennill y grant yn arwydd o’r parch rhyngwladol sydd at waith y Ganolfan Uwchefrydiau.
Rhai o’r manylion
- Y gred yw fod mwy na 50 o seintiau Cymreig, er nad oes fawr ddim gwybodaeth am lawer ohonyn nhw.
- Mae mwy na 100 o gofnodion ysgrifenedig ohonyn nhw, gyda llawer yn y Llyfrgell Genedlaethol ac eraill mewn llyfrgelloedd ar hyd a lled gwledydd Prydain.
- Fe fydd y prosiect yn parhau am bedair blynedd.
- Arweinydd y prosiect yw David Parsons o’r Ganolfan Uwchefrydiau.
- King’s College fydd yn creu’r llwyfan ar-lein i ddangos y deunydd a fydd ar gael yn rhad ac am ddim, a phopeth yn yr un lle am y tro cynta’ erioed.
- Fe fydd y Llyfrgell Genedlaethol yn creu lluniau digidol o rai o’r llawysgrifau.
- Fe fydd Jane Cartwright o Brifysgol Y Drindod Dewi Sant yn cynnig arbenigedd ar ryddiaith bucheddau’r seintiau.