Candelas Llun: Heledd Roberts
Mae’r rhestrau byr llawn ar gyfer gwobrau’r cylchgrawn gerddoriaeth Y Selar bellach wedi eu cyhoeddi heddiw.

Datgelwyd mai Cowbois Rhos Botwnnog, Y Bandana a Candelas oedd y tri ar restr fer categori ‘Band Byw Gorau’ y gwobrau.

Mae diddordeb mawr yng nghategori’r Band Byw Orau eleni, gan fydd yr enillydd yn derbyn £1,000, diolch i bartneriaeth newydd Y Selar a Chân i Gymru.  Cowbois Rhos Botwnnog, Candelas a Y Bandana fydd yn cystadlu am y wobr.

Bydd gwobr ariannol hefyd ar gael i’r artist sy’n ennill categori’r Gân Orau, ac mae gan Sŵnami gyfle da, gyda dau enwebiad am ‘Mynd a Dod’ a ‘Eira’.  Y Bandana sy’n hawlio’r drydydd enwebiad, am eu cân, ‘Heno yn yr Anglesey’.

Nid yn unig y cerddorion fydd yn cael eu cydnabod yn y seremoni, mae categorïau i  wobrwyo’r Digwyddiad Byw Orau, y Cyflwynydd Orau a’r Hyrwyddwr Orau.

‘Dewis y cyhoedd’

Dywedodd Golygydd Y Selar, Gwilym Dwyfor: “Y cyhoedd sydd wedi bod yn pleidleisio dros y gwobrau unwaith eto eleni.

“Dwi reit fodlon efo’r rhestrau byr terfynol gan eu bod nhw’n adlewyrchiad da o’r hyn sydd wedi bod yn digwydd, a’r artistiaid sydd wedi bod yn weithgar dros y flwyddyn ddiwethaf.

“Mae pawb sydd ar y rhestrau byr yn haeddu eu lle, a gobeithio bydd y gydnabyddiaeth yn hwb iddynt, hyd yn oed os nad ydynt yn ennill un o’r gwobrau nos Sadwrn.”

Bydd yr holl enillwyr yn cael eu gwobrwyo yn seremoni Y Selar, Neuadd Hendre, Bangor, ar 2 Mawrth.