Portmeirion
Fe gipiodd gŵyl Gymraeg newydd y teitl Gŵyl Fechan Orau yn 2012 mewn seremoni wobrwyo neithiwr.
Cafodd Gŵyl Rhif 6 ei chynnal ym mhentref Eidalaidd Portmeirion yng Ngwynedd am y tro cyntaf ym mis Medi’r llynedd.
Enillodd yr ŵyl wobr gan y cylchgrawn cerddoriaeth NME, am yr ŵyl orau i lai na 50,000 o bobol.
Mae’r ŵyl eisoes wedi ennill sawl gwobr, a welodd bandiau fel Primal Scream a New Order ar y llwyfan, a bandiau Cymraeg fel Race Horses ac Y Niwl yn diddori’r gynulleidfa.
Ymysg eraill oedd wedi eu henwebu am y wobr oedd gŵyl Sŵn, sy’n cael ei chynnal yng Nghaerdydd, a The Great Escape yn Brighton.
Roedd Gwobrau’r NME yn gwobrwyo cerddorion a chelfyddydau o bob math yn y seremoni – cafodd Biffy Clyro eu henwi yn fand gorau Prydeinig, Y Rolling Stones am eu perfformiad byw, a One Direction yn cael eu henwi yn fand gwaethaf 2013.
Darllenwch adolygiad Non Tudur o Ŵyl Rhif 6 2012 yma