Mae dau ddyn wedi bod gerbron Llys Ynadon Wrecsam bore ma ar gyhuddiad o lofruddio gwraig 65 oed yn ei chartref.

Mae Alexandros Weatherill, 23, a Christopher Curran, 34, wedi eu cyhuddo o lofruddio Glynis Eileen Solmaz ac o gynllwynio i ladrata.

Cafodd  Heddlu’r Gogledd eu galw i dy ym Mryn Hafod, Wrecsam toc wedi 10yb ddydd Mercher, 20 Chwefror lle cafwyd hyd i gorff Glynis Solmaz.

Mae dau ddyn arall – Christopher Natt, 52, a David Lovell, 29, – hefyd wedi eu cyhuddo o gynllwynio i ladrata.

Mae’r pedwar dyn yn dod o ardal Wrecsam.

Fe fydd Alexandros Weatherill a Christopher Curran yn mynd gerbron Llys y Goron Caernarfon yfory.