Mae 70 o swyddi mewn ffatri gaws mewn perygl ar ôl i gwmni o Ganada dynnu allan o Ewrop.
Mae cwmni Saputo, sy’n gweithredu yng Nghastell Newydd Emlyn, wedi dweud bod y farchnad yn rhy heriol, a’u bod nhw’n cynnal ymgynghoriad ar ddyfodol eu busnes yn Ewrop.
Ond mae’r cwmni wedi dweud nad oes sicrwydd eto y byddan nhw’n symud yn gyfan gwbl o Ewrop.
Cyhoeddodd y cwmni ddydd Llun eu bod nhw’n cau ffatri gaws yn yr Almaen.
Mae’r cyfnod ymgynghori ar y safle yng Nghastell Newydd Emlyn eisoes wedi dechrau.
Mae’r ffatri, sydd wedi bod ar agor ers 2007, yn cynhyrchu caws mozzarella ar gyfer y diwydiant bwyd.
Mae yna gynlluniau i ehangu’r cwmni yn Ne America ac Awstralia, ac maen nhw wedi dweud y bydd yn costio hyd at $15 miliwn i gau’r ddau safle yn Ewrop, gyda hyd at 140 o swyddi’n cael eu colli.
‘Ergyd fawr’
Mae is-lywydd NFU Cymru, Stephen James, wedi dweud fod y newydd yn “ergyd fawr i ardal wledig gan fod Saputo yn gyflogwr pwysig.”
“Gyda’r posibilrwydd o golli safle prosesu arall yn un o’r ardaloedd cynhyrchu llaeth pennaf yn Ewrop rydym ni’n gobeithio y bydd pob ymdrech yn cael ei wneud i ddod o hyd i brynwr newydd i’r safle.”
AC yn trafod opsiynau
Dywedodd AC Plaid Cymru Rhodri Glyn Thomas ei fod yn cwrdd â gweinidog busnes Llywodraeth Cymru heddiw i drafod yr opsiynau sydd ar gael i ddiogelu dyfodol y ffatri a’r gweithwyr.
Ychwanegodd bod Hufenfa De Arfon hefyd wedi bod mewn cysylltiad ag ef i ddweud bod ganddyn nhw ddiddordeb mewn prynu llefrith gan ffermwyr lleol.
“Mae hyn yn newyddion calonogol i gynhyrchwyr lleol ac rydw i wedi cysylltu gydag undebau amaeth lleol er mwyn eu hysbysu am y datblygiad yma.
“Yn bennaf, rwy eisiau sicrhau bod cynifer o weithwyr ag sy’n bosib yn cadw eu swyddi yn ardal Castell Newydd Emlyn ac fe fydda’i yn parhau i wneud popeth yn fy ngallu i atal cymaint o ddiswyddiadau ag sy’n bosib.”