Yr Aifft
Mae o leiaf 19 o dwristiaid, gan gynnwys Prydeinwyr, wedi cael eu lladd wrth i’w balŵn awyr gwympo i’r ddaear ger dinas Luxor yn yr Aifft, yn ôl swyddog diogelwch.

Dywedodd y swyddog bod ymwelwyr o Brydain a Ffrainc ymhlith y rhai gafodd eu lladd.

Mae’n debyg bod tân wedi cynnau ar y balŵn a’i fod wedi ffrwydro cyn plymio i gaeau i’r gorllewin o Luxor. Mae Luxor 320 o filltiroedd o Cairo.

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor eu bod yn ymwybodol o’r adroddiadau ac yn gwneud ymholiadau brys gyda’r awdurdodau yn yr Aifft.