Mae tri dyn arall wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddio gwraig yn ei chartref yn Wrecsam.

Cafodd  Heddlu’r Gogledd eu galw i dy ym Mryn Hafod, Wrecsam toc wedi 10yb ddydd Mercher, 20 Chwefror lle cafwyd hyd i gorff Glynis Eileen Solmaz, 65 oed.

Bore ma, cafodd yr heddlu 24 awr ychwanegol i holi dyn 23 oed o Wrecsam a gafodd ei arestio ddydd Gwener, 22 Chwefror.

Yn gynharach heddiw cafodd tri dyn arall, 52, 34 a 29 oed, sy’n byw’n lleol, eu harestio.

Mae’r tri wedi eu harestio ar amheuaeth o lofruddio a chynllwynio i fwrglera ac yn cael eu holi yng ngorsaf yr heddlu yn Wrecsam.