Mae cwest i farwolaeth milwr wedi clywed ei fod wedi cael ei ladd ar ôl cael ei saethu yn ei ben ar safle hyfforddiant y fyddin yng Nghastellmartin, Sir Benfro.
Cafodd Michael Maguire, 21, o Swydd Cork yn Iwerddon, ei daro yn ei ben gan fwled, a oedd mae’n debyg wedi cael ei danio gan filwr arall oedd yn ymarfer saethu at dargedau dros gilomedr i ffwrdd.
Roedd Michael Maguire, o gatrawd Wyddelig y fyddin, wedi bod yn sefyll mewn lle diogel ar y safle hyfforddi, heb ei helmed a’i arfwisg, tra bod milwyr eraill yn ymarfer.
Roedd y milwyr yn hyfforddi ar gyfer eu taith i Afghanistan yn ddiweddarach eleni.
Clywodd y cwest yng Nghaerdydd bod meddygon wedi brwydro i achub y milwr wedi’r digwyddiad ym mis Mai’r llynedd, a chafodd ei gludo mewn hofrennydd i’r ysbyty yng Nghaerdydd ond bu farw hanner awr yn ddiweddarach.
Roedd Maguire wedi bod yn aelod o’r fyddin ers 2010.
Cafodd y cwest ei ohirio tan yfory.