Dyfrgi
Mae perchennog fferm bysgod yng Ngwynedd wedi dwyn achos yn erbyn Asiantaeth yr Amgylchedd gan honni fod ei fusnes wedi dioddef ar ol i ddyfrgwn fwyta’i stoc o bysgod carp.

Mae Brian Dodson, 60, sy’n berchen ar fferm bysgod Waen Wen ger Bangor, yn honni bod Asiantaeth yr Amgylchedd wedi sefydlu cynefin i ddyfrgwn gerllaw ei lynnoedd, a heb ei hysbysu ef o’r bwriad a’r effaith posibl ar ei fusnes.

Mae Brian Dodson yn dweud fod y dyfrgwn wedi llarpio 22,000 o’i bysgod carp a’i fod am gael ei ddigolledi am £2m am ei fod wedi colli incwm o’r llynnoedd.

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru yn brwydro yn erbyn yr honiadau ac mae’r gwrandawiad yng Nghaerdydd yn parhau.

Mae dyfrgwn yn cael eu diogelu ym Mhrydain ac mae’n anghyfreithlon i’w dal, eu lladd, neu  amharu ar eu cynefinoedd.