Nant Gwrtheyrn
Mae Nant Gwrtheyrn wedi derbyn £68,000 ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i gefnogi’r cyrsiau Cymraeg sy’n cael eu cynnig yno.

Nant Gwrtheyrn ger Pwllheli yw’r unig ddarparwr yng Nghymru sy’n cynnig cyrsiau preswyl Cymraeg i oedolion drwy gydol y flwyddyn.

Mae nifer y dysgwyr sydd wedi manteisio ar y cyrsiau hyn wedi cynyddu 42% ers 2009. Bydd yr arian ychwanegol yn mynd at y gwaith o ddatblygu’r cyrsiau sydd ar gael.

Mae’r rhaglen Cymraeg i Oedolion yn rhan allweddol o’r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg sydd wedi’i hanelu at sicrhau bod pobl o bob oed a chefndir yn gallu dysgu Cymraeg er mwyn defnyddio’r iaith gyda’u teuluoedd, yn eu cymunedau ac yn y gweithle.

Dywedodd y Gweinidog â chyfrifoldeb am y Gymraeg, Leighton Andrews:  “Rydym yn ymrwymedig i weld y Gymraeg yn ffynnu ac i roi cyfle i ragor o bobl ddatblygu a defnyddio’r iaith yn eu bywyd bob dydd.

“Fel un sydd wedi dysgu Cymraeg fy hun, dwi’n gwybod am werth y cyrsiau sydd yn Nant Gwrtheyrn a dwi wrth fy modd o weld bod mwy a mwy o bobl yn dewis dysgu’r Gymraeg.

“Bydd y swm ychwanegol o £68,000 ar gyfer Nant Gwrtheyrn yn eu galluogi i gwrdd â’r galw cynyddol am y cyrsiau preswyl unigryw hyn drwy gydol y flwyddyn a bydd yn sicrhau bod mwy a mwy o bobl yn cael cyfle i ddysgu Cymraeg.”