Mae Heddlu De Cymru’n apelio am dystion a welodd ymosodiad ar actor adnabyddus Cymraeg.

Maen nhw’n dweud fod yr actor 37 oed Rhys ap William mewn cyflwr sefydlog ond difrifol yn yr ysbyty yng Nghaerdydd ar ôl y digwyddiad ychydig wedi hanner nos fore Sul.

Yn ogystal â bod yn un o gyn sêr Pobol y Cwm ac Alys, mae llais Rhys ap William hefyd yn enwog am wneud y cyhoeddiadau yn ystod gemau rhyngwladol yn Stadiwm y Mileniwm.

Tystion

Yn ôl yr heddlu, roedd camerâu cylch cyfyng wedi gweld yr actor yn cael ei daro i’r llawr a’i adael yn anymwybodol ac roedd pobol yno hefyd.

Roedd yr ymosodiad wedi digwydd y tu allan i dafarn yr Admiral Napier yn Nhreganna.

Mae’r heddlu nhw wedi gofyn i lygad dystion gysylltu ar 101 neu gysylltu gyda’r Ditectif Sarjiant Andy Miles ar 02920 222111 estyniad 35406.