Mae perchnogion Alwminiwm Môn wedi cadarnhau fod y gwaith yn cau a bod tua 60 o swyddi uniongyrchol yn cael eu colli.

Cynhaliodd bwrdd rheoli’r cwmni gyfarfodd ddoe a dywedon nhw fod costau wedi cynyddu a’r galw am gynnyrch wedi disgyn.

Mae 60 o swyddi uniongyrchol yn diflannu pan fydd y gwaith yn dod i ben ymhen dau fis, a bydd criw bychan o staff yn cael eu cyflogi er mwyn cau’r gweithfeydd a chynnal y safle tan ei fod yn cael ei werthu.

Diwedd cyfnod

Roedd Alwminiwm Môn, sy’n eiddo i Rio Tinto a Kaiser Aluminium, yn arfer bod yn un o brif gyflogwyr yr ynys cyn cael gwared ar 400 o swyddi yn 2009 pan ddaeth y gwaith o doddi metel i ben.

Ers hynny mae tua 80 o weithwyr wedi cael eu cyflogi yn y gwaith o ail-brosesu metel.

Dywedodd Klaus Stingl, Cadeirydd Bwrdd Alwminiwm Môn, fod y Bwrdd yn “cydnabod y gwaith sydd wedi cael ei wneud gan y gweithwyr a’r tim rheoli yn Alwminiwm Môn, yn ogystal â’u hymrwymiad i ddiogelwch a’u hethic gwaith arbennig.”

Mae Cyngor Sir Môn yn gobeithio y bydd cwmni Lateral Power yn creu gorsaf biomas ar y safle ac yn creu tua 400 o swyddi.

Mae 350 o swyddi eraill yn y fantol yn Ynys Môn gyda’r bwriad i gau lladd-dŷ Welsh Country Foods yn y Gaerwen.