Darlun o'r hyn a fydd
Canolfan Pontio fydd enw’r adeilad newydd sy’n cael ei godi yn ninas Bangor gyda dros £30 miliwn o arian o’r coffrau cyhoeddus.
Fe fydd yr enw yn cael ei ddadorchuddio’n swyddogol wythnos i heddiw, ar Ddydd Gŵyl Dewi.
Er i’r Brifysgol yno gynnal cystadleuaeth i ganfod enw newydd i’r adeilad, gan egluro mai tamaid i aros pryd oedd Pontio, mae pwyllgor wedi penderfynu cadw’r enw dros dro yn un parhaol.
Chwilio am enw newydd…
Fis Awst y llynedd roedd y Brifysgol yn lansio cystadleuaeth i enwi’r adeilad newydd.
Meddai Elen ap Robert, Cyfarwyddwr Artistig Pontio, wrth lansio’r gystadleuaeth:
“Mae Pontio wedi cael ei ystyried o’r dechrau yn enw’r project ei hun – sef y cyfnod pontio rhwng cau Theatr Gwynedd ac agor y ganolfan newydd. Felly, rydym yn gofyn i bawb ddod â’u hawgrymiadau am enwau i ni.
“Rydym yn chwilio am enw bachog – un sy’n gweithio yn Gymraeg a Saesneg – mae’n gryn her ac yn un yr hoffem eich help gydag o.”
Hanes cythryblus
Ers cau Theatr Gwynedd, a hynny dan brotest, mae sawl tro trwstan wedi bod yn hanes y prosiect Pontio.
Fe adawodd Prif Weithredwr cynta’r prosiect wedi llai na blwyddyn wrth ei ddesg. Roedd Cymdeithas yr Iaith wedi cwyno am nad oedd yn medru siarad Cymraeg.
Ac fe darfodd y Gymdeithas ar ddiwrnod mawr arall yn hanes y fenter, pan ddaeth y Prif Weinidog Carwyn Jones i fyny o Gaerdydd i dorri’r dywarchen gyntaf ar safle codi’r lle newydd.
Roedd y protestwyr iaith yn cwyno fod Pontio ddim yn cadw at gynllun iaith Prifysgol Bangor, ac fe eisteddon nhw ar lawr yn y lansiad swyddogol yn dadlau gyda uwch swyddogion y coleg, a hynny o flaen y Prif Weinidog.
Wedyn penodwyd y darlithydd Cymraeg Jerry Hunter i swydd bwysig gyda Phontio, a daeth addewidion o Gymreigio’r prosiect.
Pontio?
Mae Prifysgol Bangor wedi cael £15 miliwn o arian cyhoeddus ar ffurf grantiau o Ewrop, a £12 miliwn o goffrau’r Cynulliad a £3 miliwn arall gan Gyngor y Celfyddydau – er mwyn codi adeilad fydd yn theatr newydd, yn undeb i’r myfyrwyr ac yn ganolfan arloesi a chroesbeillio rhwng y gwyddorau a’r celfyddydau.
‘Rhestr fer hir’
Bu pwyllgor o gynghorwyr lleol, gweithwyr y Brifysgol ac arweinwyr cymunedol yn ystyried rhestr fer hir o enwau posib, cyn plympio am Pontio yn y diwedd.
Dyma’r restr fer hir o enwau posib oedd dan sylw:
Adda
Afallon
Awen
Bedwen
Briga
Calon
Canolfan Bryn
Canolfan Llywelyn
Canolfan Pontio
Ciwb
Corlan
Deinamo
Dolen
Ffynnon
Forum
Glasgoed
Gorad
I-Bawb
Plas Pobl
Pontio
Roedd cyn-Is-Ganghellor Prifysgol Bangor, Merfyn Jones, wedi dweud wrth gylchgrawn Golwg ei fod yn ffafrio galw’r lle yn Ganolfan Da Vinci, yn deyrnged i’r croesbeilliwr mawr o’r Eidal oedd yn arloesi yn y meysydd gwyddonol a chelfyddydol.
Ond ni wnaeth yr awgrym hwnnw’r rhestr fer hir.
Bydd yr adeilad yn cael ei enwi’n swyddogol wythnos i heddiw, ar ddydd gŵyl ein nawddsant cenedlaethol.
Mae golwg360 wedi gofyn i Brifysgol Bangor am ymateb…