Mae Aelod Cynulliad dros Ogledd Cymru wedi ymateb yn ddig i’r newydd fod y Cyngor Iechyd Cymunedol lleol wedi rhoi sêl bendith i symud gofal arbenigol i fabanod newydd i Loegr.
Fis diwethaf roedd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi cyhoeddi ei fwriad i symud gwasanaeth gofal dwys i fabanod o Ysbytai Glan Clwyd a Maelor Wrecsam i Ysbyty Arrowe Park ar Lannau Mersi.
Roedd gan Gyngor Iechyd Cymunedol y gogledd y pwer i gyfeirio’r mater at Weinidog Iechyd Cymru, Lesley Griffiths, ond ni fydd hynny’n digwydd ar ôl iddyn nhw gymeradwyo’r cynllun mewn cyfarfod ddoe. Maen nhw hefyd wedi cymeradwyo cynlluniau i gau pedwar ysbyty cymunedol yn y gogledd.
Nid yw’r penderfyniad wrth fodd Aled Roberts AC.
“Mae’r Cyngor Iechyd Cymunedol i fod i gynrychioli barn y bobol yng ngogledd Cymru ac mae wedi methu â gwneud hynny,” meddai .
“Mae’n codi’r cwestiwn beth yw’r pwynt cael Cyngor Iechyd Cymunedol?”
“Yn fy marn i roedd digon o reswm i gyfeirio israddio ein gwasanaethau newydd-anedig i’r Gweinidog Iechyd ac rwyf wedi fy syfrdanu nad ydyn nhw wedi gwneud hynny.”
‘Penderyfniad di-asgwrn-cefn’
Dywedodd Llyr Gruffydd, AC Plaid Cymru dros Ogledd Cymru: “Mae’r penderfyniad gan y CIC i beidio â chyfeirio gwasanaethau i fabanod newydd-anedig a chau ysbytai cymunedol at y gweinidog yn peri i rywun ofyn – i beth yn union y mae’r CIC yn da?
“Maent wedi anwybyddu gweithwyr clinigol, y BMA, yr RCN, yr RCM a’r gymuned yn ehangach ac wedi ochri gyda chynigion hynod wallus y bwrdd iechyd. Penderyfniad di-asgwrn-cefn yw hwn.
“Mae hyn yn peri dicter cynyddol ledled y gogledd wrth i ni weld gwir bryderon y cyhoedd yn cael eu hanwybyddu. Rhaid i’r gweinidog yn awr gadw at ei gair ac ymyrryd cyn ei bod yn rhy hwyr.”
‘Wedi methu gwarchod lles cleifion’
Dywedodd AC Arfon Alun Ffred Jones: “Rwy’n gresynu at y penderfyniad yma gan y Cyngor Iechyd Cymuned.
“Fel pob un o’r cyrff meddygol proffesiynol, rydw i’n credu ei bod hi’n hanfodol fod gan Ogledd Cymru ddarpariaeth fel hyn i fabanod a’u teuluoedd o fewn pellter gyrru rhesymol i’w cymunedau.
“Yn fy marn i mae’r Cyngor Iechyd wedi methu yn ei ddyletswydd sylfaenol i warchod lles cleifion yng ngogledd Cymru.
Pleidlais o ddiffyg hyder
Y bore yma roedd cynghorwyr Conwy wedi cefnogi pleidlais o ddiffyg hyder yn rheolwyr Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.
Cafodd y bleidlais ei gohirio bythefnos nôl er mwyn rhoi “cyfle olaf” i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ail-feddwl eu cynlluniau am ad-drefnu gwasanaethau iechyd yn y gogledd.