Charlotte Bronte
Bydd yr awdures enwog Charlotte Bronte, a greodd Jane Eyre, yn dychwelyd i Gonwy y mis nesaf.

Bydd cerflun o Charlotte ymysg yr eitemau fydd yn rhan o arddangosfa fydd i’w gweld yn yr Academi Frenhinol Gymreig. Bydd yn agor ar yr Ail o Fawrth ac yn parhau hyd at y 6ed o Ebrill.

Yr artist a’r gerflunwraig Diane Lawrenson, sy’n dod yn wreiddiol o Lerpwl, sydd wedi creu’r cerflun llawn maint o’r awdures oedd yn gyfarwydd â Chonwy gan mai yn y dref hon y treuliodd noson gyntaf ei mis mêl.

Fe arhosodd hi a’i gŵr Arthur Bell Nicholls yng Ngwesty’r Castell sydd ar agor o hyd yn y dref. Priododd Arthur a Charlotte ym mis Mehefin 1854. Yn ogystal â threulio noson yng Nghonwy fe wnaethon nhw aros ym Mangor hefyd.

Bu farw Charlotte ym mis Mawrth y flwyddyn ganlynol a hithau’n feichiog ac yn dioddef o salwch bore. Roedd yn 38 oed. Yn un o chwech o blant, bu farw ei brawd a’i chwiorydd o’r diciâu. Fe’u magwyd ym mhentref Haworth yn swydd Efrog.