Theresa May
Mae’r Ysgrifennydd Cartref Theresa May wedi cyhuddo barnwyr o danseilio democratiaeth ym Mhrydain a gwneud ei strydoedd yn fannau mwy peryglus trwy anwybyddu rheolau newydd sydd â’r nod o alltudio mwy o droseddwyr tramor.

Deddfwriaeth newydd

Dywedodd y byddai’n cyflwyno deddfwriaeth newydd i gyfyngu ar hawliau dynol troseddwyr ar ôl i leiafrif o’r farnwriaeth benderfynu “anwybyddu dymuniadau’r Senedd.”

Mi wnaeth aelodau seneddol roi sêl bendith ar arweiniad newydd i’r barnwyr mis Gorffennaf y llynedd oedd yn gwneud yn glir mai amodol oedd yr hawl i fywyd teuluol – sy’n cael ei nodi yn Erthygl 8 y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol . Roedd hyn yn dilyn nifer o achosion lle’i defnyddiwyd i gyfiawnhau rhoi’r hawl i droseddwyr o wledydd tramor i aros yn y Deyrnas Unedig yn hytrach na chael eu halltudio.

Ond dywedodd Theresa May mewn erthygl yn y Mail on Sunday heddiw fod rhai barnwyr i’w gweld fel petaen nhw’n meddwl y gallan nhw anwybyddu dymuniadau’r Senedd, “ pan maen nhw’n meddwl ei bod wedi dod i’r canlyniad anghywir.”

Rhybuddiodd y byddai’r oedi cyn y byddai deddf newydd yn dod i rym yn arwain at fwy o bobl yn dioddef troseddau treisiol wedi eu cyflawni “gan dramorwyr yn y wlad hon.”

Rhaid cael cydbwysedd

Doedd dim dadl am barchu hawliau dynol, meddai “sy’n rhan hanfodol o unrhyw system gyfreithiol weddus,”ond roedd yn rhaid cael cydbwysedd rhwng hawliau, “yn arbennig, hawl yr unigolion i fywyd teuluol, hawl yr unigolyn i fod yn rhydd o droseddu treisiol, hawl cymdeithas i amddiffyn ei hun rhag troseddwyr o dramor.”