Medi 22ain.
Cyhydnos yr Hydref, Medi 22ain: Alban Elfed.
Daeth newid tymor. Ddydd Sul diwethaf, am oddeutu 13:45p, bu’n rhaid gollwng gafael ar yr Haf, ei hamdden, ei hud, ei harddwch am flwyddyn arall eto, a throi i wynebu’r Hydref, a pharatoi i heth a hirlwm hir y Gaeaf hir. Mae’r coed eisoes wedi dechrau diosg eu dillad hafaidd. Mae’r wiwer lwyd yn brysur, brysur yn paratoi ei wal. Bydd y wennol, maes o law, yn codi aden i chwilio am bro gynhesach. Cyhydnos yr Hydref, darfu’r Haf, ei gyfaredd, ei gyfoeth, ei gyfle – darfu tymor y goleuni; ffarwel i wenau’r haul.
Och! Dyna ddigon, Owain Llŷr!
Mae ffordd arall i feddwl am hyn i gyd. Ddydd Sul diwethaf, bu’n rhaid gollwng gafael ar yr Haf, goleuni llachar yr haul, a’i wres, a throi i wynebu’r Hydref. Tymor y golau tyner, a’r cysgodion caredig yw’r Hydref, am wn i. Mae golau tyner yr Hydref yn gyfrwng bendith, mae cysur ynghudd yn y cysgodion mwyn. Gall golau llachar haul yr Haf ein dallu, gall ei wres – heb ofal – ein llosgi.
Tueddwn i feddwl mai hanfod pob ‘gwybod’ yw mynd â goleuni i ganol pob tywyllwch, i gael gweld beth sydd yno, ei ddeall ac felly ei adnabod, ac o’i adnabod ei berchenogi. Onid ydym, wrth fynnu cael ‘gwybod’ fel hyn, wedi colli math arall o ‘wybod’? Hen, hen wybod ydyw – y ‘gwybod’ a ŵyr fod yn rhaid i rai pethau aros yn y cysgodion, oherwydd dim ond o’r golwg mae ambell wirionedd yn gallu byw. Wrth dynnu gwirioneddau felly o’r cysgodion i’r ‘goleuni’, byddan nhw naill ai yn marw, neu… yn lladd. Mae i bob peth ei bris, hyd yn oed eglurder.
Tymor y cysgodion mwyn, a’r golau brith yw’r Hydref. Daw Duw atom, nid dim ond fel goleuni mawr a threiddgar; weithiau, mae’n aros amdanom yn y cysgodion tywyll, tawel.
Wrth droi i wynebu’r Hydref, a pharatoi i’r Gaeaf, cofiwch, cofiwn, ac atgoffwn eraill, fod modd cael cynhesrwydd Haf yng nghanol oerni’r Gaeaf; oes, mae modd gweld goleuni dydd yng nghysgod nos, a darganfod dedwyddwch yn ein tristwch. Y mae golau nad yw byth ar goll yng nghysgodion byw.