Mama, take this badge off of me
I can’t use it anymore.
It’s gettin’ dark, too dark to see
I feel I’m knockin’ on heaven’s door.
Bai Bob Dylan ydyw mai testun y golofn hon heddiw yw’r Nefoedd. Ychydig iawn o bregethu sydd am y Nefoedd. Os ydy pregethwr yn mentro pregethu am y Nefoedd, y tueddiad yw sôn am bwy sydd yn mynd yno, a phwy sydd yn mynd i’r lle arall. Tueddwn i ganolbwyntio ar sut i gyrraedd y Nefoedd, yn hytrach na beth yw’r Nefoedd. Mae angen mwy o bregethu am y Nefoedd; mae angen lletach drafodaeth am y Nefoedd. Pam? Oherwydd bod angen cysur a chynhaliaeth ar bobol, pan ddôn nhw wyneb yn wyneb â marwolaeth. Ers degawdau bellach, bu’r eglwys Gristnogol yng Nghymru yn osgoi’r cwestiynau miniog diwinyddol sy’n codi’n naturiol ddigon wrth hel meddyliau am y Nefoedd, a hynny yn union er mwyn estyn cysur a chynhaliaeth i’r galarus. Wrth wneud hynny, llithrodd y gwir gysur Cristnogol o’n gafael. Pa fath gysur yw’r cysur Cristnogol? Cysur trwm – anodd – ydyw, ond cysur go iawn, sef hyn: cyn profi realiti’r Nefoedd, rhaid wynebu realiti ein diwedd. Tueddwn i estyn y naill i bobol, heb wynebu’r llall.
I ddechrau, felly, tri pheth nad ydyn nhw’n wir am ein deall Cristnogol o’r Nefoedd. Yn gyntaf, tueddwn i sôn am y Nefoedd yn nhermau parhad tragwyddol yr enaid. Yn y Nefoedd, er colli’r corff, mae’r enaid yn byw yn oes oesoedd. Er bod y cnawd yn darfod, yn y Nefoedd mae’r enaid yn parhau. Gan gydnabod fod y syniad hwnnw’n gysur i nifer fawr o bobol, rhaid dweud mai peth cwbl estron ydyw i’r ffydd Gristnogol. Mae’r syniad ein bod ni, bob un, yn ddau: corff ac enaid, a thra bod un – y corff – yn darfod, mae’r llall – yr enaid – yn parhau i fyw, yn syniad hen hen iawn, yn hŷn na Christnogaeth. Gorwedd gwraidd y syniad hwnnw yn athroniaeth Groeg. Ni welwn, yn y naill Destament na’r llall, y syniad bod y corff yn garchar o fath i’r enaid; a bod yr enaid, pan fo’r corff yn darfod, yn cael dianc i ryddid newydd a bendigedig, fel aderyn yn dianc o gawell cyfyng. Yn ôl y Beibl, un ydym. Ni ddylid ceisio gwahanu’r corff a’r enaid, gan na allwn wahanu’r ddau! Un ydym; corff ac enaid: un ydyn nhw. Mae marwolaeth, felly, yn realiti i’r corff a’r enaid. Pan ddarfu un, darfu’r llall, gan fod y naill a’r llall ynghlwm wrth ei gilydd.
Y Sulgwyn, 1910, yng Nghadeirlan San Paul, Llundain, darllenodd Henry Scott Holland ychydig eiriau o’i eiddo ddaeth, maes o law, i fod yn eiriau cyfarwydd ac annwyl i lawer o bobol:
Death is nothing at all.
I have only slipped away to the next room.
I am I and you are you.
Whatever we were to each other,
That, we still are…
I am but waiting for you.
For an interval.
Somewhere. Very near.
Just around the corner.
All is well.
Buasai’r hen athronwyr Groegaidd wedi cytuno 100%; Death is nothing at all – mae’r corff yn darfod, ond mae ein hanfod, craidd yr hyn ydym – yr enaid – yn parhau, yn rhydd. Death is nothing at all.
Geiriau llawn cysur, ond nid cysur trwm y ffydd Gristnogol mohonyn nhw. Ystyriwch Iesu ar y groes; y goron ddrain, yr hoelion dur: Death is nothing at all? Ystyriwch effeithiau gwallgofrwydd yr hunan-fomiwr: Death is nothing at all? Ystyriwch y fam sy’n gweld ei phlentyn yn darfod oherwydd diffyg maeth a dŵr glan: Death is nothing at all? Ystyriwch eich profiad personol o golli anwyliaid: Death is nothing at all? Wir? Myn ffydd wynebu ffeithiau: mae marwolaeth yn real, rydym yn darfod. Yn rhyfedd iawn, ffynhonnell ein gobaith – tarddiad ein cysur – yw derbyn y realiti hwn gan wybod nad yw ein diwedd ni yn ddiwedd i gariad Duw a’i ofal ef trosom.
Yn ail, tueddwn i sôn am y Nefoedd yn nhermau rhyw fath o ymddatod. Wrth i’r corff ymddatod – pridd i’r pridd, llwch i’r llwch – y mae’r enaid yn ymwasgaru i eangderau Tragwyddoldeb. A glywsoch sôn am Mary Frye, tybed? Er bod yr enw yn anghyfarwydd, dw i’n lled ffyddiog y byddwch yn gyfarwydd â’r gerdd hon o’i heiddo:
Do not stand at my grave and weep,
I am not there; I do not sleep.
I am a thousand winds that blow,
I am the diamond glints on snow,
I am the sunlight on ripened grain,
I am the gentle autumn rain.
When you awaken in the morning’s hush
I am the swift uplifting rush
Of quiet birds in circled flight.
I am the soft stars that shine at night.
Do not stand at my grave and cry,
I am not here; I did not die.
Geiriau llawn cysur, ond eto, nid y cysur trwm Cristnogol mohono. Mae angen bod yn ofalus iawn wrth estyn cysur gwan i’n gilydd ac eraill. Yng ngeiriau Henry Scott Holland a Mary Frye, nid oes cyfeiriad o gwbl at Dduw; ai dyna, efallai, pam eu bod mor ddeniadol i bobol? Maen nhw’n cynnig cysur heb sôn am waith achubol Crist. Daw’r cysur trwy wadu realiti marwolaeth a realiti cariad Duw.
Yn drydydd, tueddwn i sôn am y Nefoedd yn nhermau cael ein hail-greu. O’r tri, dyma’r camsyniad lleiaf peryglus, ond peryglus ydyw serch hynny. Fe glywsom, mewn gwasanaeth angladd sawl tro, mae’n siŵr gen i, rywbeth ar hyd y llinellau hyn: “Dw i’n siŵr bod Tom nawr yn ei ardd newydd yn y nefoedd, wrthi’n palu, a phlannu.”
Maddeued y gwamalu, ond mae iddo bwrpas: awgrym mai parhad o’n bywyd nawr yw’r Nefoedd. Wedi ein marw, rydym yn parhau i fyw fel ag yr ydym, ond yn y Nefoedd, a hynny – dw i’n dyfalu – yn oes oesoedd. Felly, y Nefoedd i mi – Owain Llŷr – fydd parhau i baratoi dwy bregeth i bob Sul am dragwyddoldeb! Och!
Felly, dyna ni: tri chamsyniad am y Nefoedd. Nid diniwed mohonyn nhw. Maen nhw’n tynnu ein sylw oddi wrth Iesu, gwraidd y gobaith Cristnogol. Heb gadw golwg a gafael ar Iesu, nid oes – am wn i – wir gysur, na chynhaliaeth barhaol.
Canolbwynt – ffocws – y tri pheth hyn yw ni. Ni yw gwrthrych y cyfan. I’r Cristion, Duw sy’n bwysig, ac o’r herwydd fe wyddom fod un peth yn lletach a dyfnach na marwolaeth: gogoniant cariad creadigol Duw. Gobaith y Cristion yw ein bod, yn sgil ein marw, yn dod wyneb yn wyneb â’r gogoniant hwnnw, a bod y gogoniant hwnnw yn ein gweddnewid – y cyfan ohonom – corff ac enaid, i fod yr hyn y bwriadwyd i ni fod ers cyn dechrau’r dechrau: plant i Dduw, brodyr a chwiorydd i’n gilydd.
Ymlaen, felly, i ystyried tri pheth sydd yn wir am ein deall Beiblaidd o’r Nefoedd.
Yn gyntaf, Addoliad. Un o hanfodion y deall Beiblaidd o’r Nefoedd yw Addoli. Mae addoli’n bwysig i’r Cristion ac mae cynnwys, naws ac ansawdd ein haddoli yn bwysig i’r eglwys leol. Cynnig ein haddoliad rhagflas o’r Nefoedd. Dibynna gwerth yr addoliad ar wrthrych ein haddoliad: Iesu … ac i’r Oen y bo’r mawl a’r anrhydedd a’r gogoniant a’r nerth byth bythoedd! (Datguddiad 5:13b). Yn y Nefoedd, nid addoli a wnawn, ond addoli a fyddwn. Nid dod i’r oedfa, ond bod yn oedfa!
Yn ail, Cyfeillgarwch. Un arall o hanfodion y deall Beiblaidd o’r Nefoedd yw Cyfeillgarwch. Nid wyf mwyach yn eich galw yn weision. Yr wyf yn eich galw yn gyfeillion. (Ioan 15:15). Calon ein ffydd yw’r drindod: Tad, Mab ac Ysbryd Glân, ond mae’r drindod yn anghyflawn. Rhaid ychwanegu NI ato. Y Nefoedd yw’r Pedwardod hwn. Bellach, byddwn yn profi’r ddynoliaeth, y greadigaeth a’r Duwdod mewn perffaith gynghanedd.
Yn drydydd, Gwledda. Un arall o hanfodion y deall Beiblaidd o’r Nefoedd yw Gwledda. Yn y Testament Newydd, gwledda yw’r ddelwedd amlycaf i gyfleu realiti’r Nefoedd. Y Wledd briodas: Nef a Daear, Duw a’r greadigaeth yn un: CymUNdeb. Dychmygwch, felly, y wledd hon: gwledd heb yr un alergedd, na diet; heb ofid am golesterol, braster, siwgr na phris. Gwledd heb anorecsia nerfol na bwlimia; heb Fasnach Deg gan fod Masnach bellach yn gwbl deg. Gwledd heb Fanciau Bwyd gan fod gan bawb eu digon. Dychmygwch wledd o fwyd, gwledd o gwmni, gwledd o gysur a chymorth. Gwledd o gyfeillgarwch, Gwledd o groeso. Gwledd o berthyn.
Beth yw’r Nefoedd? Addoliad, Cyfeillgarwch, Gwledda.
Dw i am orffen lle wnes i ddechrau gyda Bob Dylan: Knock, knock, knocking on heaven’s door. Dyna’r gwirionedd amdanom. Knocking on heaven’s door mae pawb ohonom. Pa ffordd well i gnocio wrth ddrws y Nefoedd na byw bywyd o wir a bywiol addoliad; byw bywyd o gyfeillgarwch o ddifri; byw gan geisio sicrhau gwledd o ddigonedd i bawb?
Addoliad, Cyfeillgarwch a Gwledda. Yn y diwedd, y tri pheth hyn sy’n cyfrif, a’r tri pheth hyn sydd i ti a minnau’n warant nad bedd mo diwedd byw.