Trafodaethau ar godi gwaharddiad ar allforio cig oen i’r Unol Daleithiau yn hollti barn
“Fy mhryder mawr i yw bod unrhyw gytundeb i ni allforio atyn nhw, yn mynd i arwain aton ni’n mewnforio’n ôl ganddyn nhw hefyd”
Bwydlen cinio ysgol “di-gig” yn gwylltio cynghorwyr ac undebau ffermio ym Môn
Mae pryderon hefyd am faint o gig sy’n cael ei gyrchu yng Nghymru
Galw am weithredu ar frys gan NFU Cymru i ailgychwyn cyflenwadau carbon deuocsid
Mae Llywodraeth y DU wedi rhoi miliynau o bunnoedd i ffatri CO2 i sicrhau bod cyflenwadau’n ailgychwyn
Cwmni cynhyrchu carbon deuocsid yn debygol o gael “miliynau” o bunnoedd gan Lywodraeth Prydain
Roedd Llywodraeth Prydain wedi rhoi’r arian i gwmni CF Fertilisers yn dilyn diffygion yn y gadwyn gyflenwi bwyd a diod
Bywyd gwyllt: rhaid gosod targedau i wyrdroi’r dirywiad erbyn 2030
Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymuno a sefydliadau eraill ar draws y DU i alw am weithredu
Cig Oen Mynyddoedd Cambria yn derbyn statws gwarchodedig
Y cig yw’r ail gynnyrch Cymreig i ennill statws Dynodiad Daearyddol y Deyrnas Unedig, wedi i Gig Oen Morfa Heli Gŵyr dderbyn yr un gydnabyddiaeth
Rhybuddio ymwelwyr i osgoi morloi ar ôl aflonyddu diweddar
“Mae’n bwysig iawn cofio bod y creaduriaid eiconig hyfryd yma yn anifeiliaid gwyllt felly cadwch draw a mwynhewch o bell.”
£66 miliwn i sicrhau canlyniadau amgylcheddol cadarnhaol i Gymru
Contractau Glastir Uwch, Tir Comin ac Organig yn cael eu hymestyn nes fis Rhagfyr 2023, a chyllid ychwanegol i ymestyn rhaglen Cyswllt Ffermio
Ysgol filfeddygol: “Gwell gobaith cael milfeddygon sy’n gyfarwydd â’r diwydiant amaethyddol”
Gallai’r Ysgol Gwyddor Filfeddygol yn Aberystwyth fod yn gyfle i gydweithio er lles yr amgylchedd ac anifeiliaid, yn ôl un cyn-filfeddyg
Troi cefn ar gynlluniau i yrru cerbydau milwrol ar draws corsydd Llyn Brenig
Dŵr Cymru wedi gwrando ar wrthwynebiad pobol leol, a phenderfynu peidio mynd â phobol ar deithiau dros y corsydd