Clwb Hinsawdd Clyfar Ysgol Daffiama yn Ghana
Casia Wiliam sydd yn trafod gwaith yr elusen ar ôl bod ar ymweliad â’r wlad yn Affrica …

Mae Oxfam yn addasu ei gwaith datblygu mewn cymunedau yn Ghana yng ngorllewin Affrica oherwydd y newid cynyddol yn hinsawdd y wlad.

Mae effaith newid hinsawdd yn Ghana yn cael ei amlygu trwy gynnydd mewn tymheredd, llifogydd, llai o law, patrymau tymhorol byrrach, cynnydd yn lefel y môr a mwy o dywydd eithafol a thrychinebau.

Yn Safana Gogleddol y wlad, sy’n teimlo effaith newid hinsawdd yn fwy nac unrhyw ranbarth ecolegol arall a ble mae’r mwyafrif o ffermwyr tlotaf Ghana yn byw, arferai’r tymor glaw ddechrau ym mis Ebrill gan bara am chwech i saith mis.

Ond bellach mae’r gyffredin i’r tymor ddechrau mor hwyr â mis Mai neu fis Mehefin, gan bara dim ond pedwar neu bum mis.

Ymateb Oxfam Ghana

Ers dros bedair blynedd mae Oxfam Ghana, sy’n cael eu hariannu gan Oxfam ym Mhrydain, wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid mewn dros 30 o gymunedau yn Ghana er mwyn cyflwyno dulliau newydd o ffermio, yn ogystal â bywoliaethau cynaliadwy amgen, er mwyn lleddfu effaith newid hinsawdd a datblygu sicrwydd bwyd yn y cymunedau tlotaf hyn.

Cyflwynwyd y prosiect cyntaf yn Ebrill 2012, sef ELCAP (Enhancing Livelihood through Climate Change Adaption Programme) i 16 cymuned ar draws pedair ardal yn y gogledd, y gogledd ddwyrain a’r gogledd orllewin.

Llwyddodd y prosiect i gefnogi 3,000 o ffermwyr graddfa-fach, 70% ohonynt yn ferched.

Daeth prosiect ELCAP i ben y llynedd ac mae prosiect diweddaraf Oxfam Ghana nawr ar waith ers Ebrill 2015, sef CRAFS (Climate Resilient Agriculture and Food Security).

Dros gyfnod o dair blynedd mae’r prosiect yn bwriadu cefnogi 4,500 o aelwydydd mewn 20 o gymunedau, gyda rhwng 10-15 o bobl yn byw ym mhob aelwyd.

Hyfforddiant ac addysg

Mae CRAFS yn cyfuno nifer o fentrau gwahanol gan gynnwys hyfforddiant ac addysg am hadau mwy gwydn a gwahanol ddulliau o blannu, arferion dyfrio gorau er mwyn ffermio yn ystod y tymor sych, a gwybodaeth am sut i greu compost naturiol i annog tyfiant.

Mae’r prosiect hefyd yn darparu hyfforddiant ar sut i adeiladu stôf egni effeithiol er mwyn llosgi llai o goed, ac yn cyflwyno mathau gwahanol o fywoliaethau i greu incwm, megis cadw gwenyn.

Er mwyn sicrhau dull cyfannol o weithio mae Oxfam hefyd wedi cyflwyno system fancio syml sy’n caniatáu i gymunedau gynilo arian ar y cyd. Enw’r fenter hon yw VSLA (Village Savings and Loans Associations).

Mae hyn yn golygu bod arian wrth gefn i bobl ei fenthyg os oes argyfwng, cyn ei dalu yn ôl gyda llog, er mwyn creu incwm i’w cymuned.

Mae’r prosiect hefyd yn addysgu oedolion a phlant yng ngogledd Ghana am bwysigrwydd plannu mwy o goed, ac am sgil effeithiau llosgi perthi, sy’n arferiad cyffredin yma ac yn arwain at diroedd sych, erydiad pridd a diffyg porfa i anifeiliaid.

Addysgu cenedlaethau’r dyfodol


Stof egni effeithiol ar waith
Yn ogystal â hyn oll mae Oxfam Ghana yn gweld pwysigrwydd addysgu yn ehangach ac addysgu’r genhedlaeth nesaf, felly mae prosiect CRAFS hefyd yn cynnwys rhaglenni trafod am newid hinsawdd ar y radio – prif ffynhonnell newyddion y wlad – a chlybiau ‘Hinsawdd Clyfar’ mewn ysgolion cynradd ac uwchradd yng ngogledd Ghana.

Yn ôl Anwar Sadat Adam, Rheolwr Rhaglen ac Ymgyrchoedd Cyfiawnder Economaidd Oxfam Ghana, mae addasu’r gwaith i fynd i’r afael â newid hinsawdd yn gwbl angenrheidiol.

“Flynyddoedd yn ôl roeddem ni’n ymateb i argyfyngau yn y gogledd, ymateb i broblemau fel sychder a llifogydd,” meddai.

“Ond dros gyfnod o amser daeth yn amlwg bod hyn yn dod yn fwyfwy cyffredin a doedd dim modd i ni barhau i gefnogi adferiadau.

“Yn hytrach roedd yn rhaid i ni ddarparu cymorth mwy cynaliadwy, fyddai’n galluogi’r cymunedau i fod yn fwy gwydn. A dyna sut y datblygwyr y rhaglen newydd.

“Roedd y cymunedau hefyd yn cael gwahoddiad i rannu eu syniadau gyda ni yn ystod y gwaith cynllunio, ac felly roeddent yn rhan o’r gwaith o’r cychwyn cyntaf.”

Trawsnewid bywydau

I mi mae’n anhygoel gweld sut mae gwaith Oxfam a’u partneriaid wedi trawsnewid bywydau pobl yng ngogledd Ghana.

Ges i sgwrs gydag un ddynes o’r enw Grace Bonebie yng nghymuned Dakyie yng ngogledd orllewin y wlad. Roedd hi wedi colli ei gŵr ac yn magu pump o blant ar ei phen ei hun.

Cyn i Oxfam ddod a’r prosiect yno roedd hi’n cael trafferth tyfu cnydau ac yn crafu byw oherwydd bod y tymor glawog mor anrhagweladwy.

Ond bellach, diolch i waith Oxfam, mae hi wedi dysgu technegau ffermio tymor sych ac roedd y balchder yn pefrio ohoni wrth iddi rannu ei hanes a dangos ei chynhaeaf llwyddiannus i mi.

Mae Casia Wiliam, Swyddog y Wasg a’r Cyfryngau Oxfam Cymru, newydd dreulio pythefnos yn Ghana yn ymweld â chymunedau yno er mwyn dysgu am waith Oxfam yn y wlad.