Mae'r Bil yn cynnwys pwerau i gyrraedd lefelau uwch o ailgylchu
Mae Aelodau Cynulliad wedi pleidleisio’n unfrydol o blaid Bil yr Amgylchedd (Cymru) – sy’n anelu at gynllunio a rheoli adnoddau naturiol Cymru mewn dull mwy cynaliadwy a chydgysylltiedig.
Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd y “ddeddfwriaeth arloesol” yn sefydlu dull cryfach o fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd, gyda tharged o leiaf 80% ar gyfer lleihau allyriadau erbyn 2050.
Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig wedi dweud nad yw’r bil yn ddigon “uchelgeisiol” a bod Llywodraeth Cymru wedi “colli cyfle”.
‘Greiddiol i bob penderfyniad’
Ond yn ôl Carl Sargeant, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol bydd y targedau newid hinsawdd statudol yn cyflymu’r datblygiadau i gyrraedd prif dargedau Llywodraeth Cymru, a bydd yn helpu i wrthsefyll effeithiau’r hinsawdd megis tymheredd eithafol a llifogydd.
Meddai: “Mae hwn yn ddiwrnod gwych i Gymru, a bydd pasio Bil yr Amgylchedd yn sicrhau bod rheoli ein hadnoddau naturiol yn gynaliadwy yn ystyriaeth sy’n greiddiol i bob penderfyniad sy’n cael ei wneud yn y dyfodol.
“Dwi’n falch mai dyma’r Bil cyntaf yn y DU – a chyn belled ag y gwyddom yn yr UE – i sefydlu’r dull ecosystem a fabwysiadwyd gan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Amrywiaeth Fiolegol yn ddeddfwriaeth ddomestig.
“Mae hyn yn cydnabod swyddogaeth hollbwysig adnoddau naturiol a’u gwasanaethau i economi, cymunedau ac amgylchedd Cymru.”
Rheoli gwastraff
Mae’r Bil hefyd yn cynnwys darpariaethau i wella’r dull o reoli gwastraff yng Nghymru gyda phwerau i gymryd camau i gyrraedd lefelau uwch o ailgylchu ar gyfer gwastraff busnes, trin gwastraff bwyd ac adfer ynni.
Bydd hefyd yn galluogi Llywodraeth Cymru i adeiladu ar lwyddiant y cynllun codi tâl am fagiau siopa drwy sicrhau bod gwelliannau’n cael eu gwneud i’r cynllun.
‘Rheoli adnoddau naturiol’
Bydd y ddeddfwriaeth newydd yn rhoi’r dulliau gweithredu sydd eu hangen ar Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i weithio’n fwy effeithiol.
Meddai Emyr Roberts, prif weithredwr CNC: “Mae pasio Bil yr Amgylchedd yn ein rhoi mewn sefyllfa well i allu rheoli ein hadnoddau naturiol mewn ffordd sy’n helpu inni fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd, colli bioamrywiaeth a rheoli tir yn gynaliadwy.
“Bydd y Bil, yn ogystal â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a’r Ddeddf Gynllunio, yn sicrhau bod datblygu cynaliadwy yn greiddiol i lunio penderfyniadau ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector, fydd yn ein galluogi i gydnabod yn llawn y cyfraniad y mae ein hadnoddau naturiol yn ei wneud i drechu tlodi, anghydraddoldebau iechyd, creu mwy o swyddi ac economi wyrddach.”
‘Angen anelu’n uwch’
Er hyn, mae’r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig yn feirniadol o’r bil.
Yn ôl William Powell AC, llefarydd y blaid dros faterion amgylcheddol, mae’r ddeddf newydd yn golygu y bydd cynlluniau Cymru i daclo newid hinsawdd yn “unol â gweddill y DU” ond bod angen “anelu’n uwch na hynny.”
“Mae’n hollol annerbyniol bod allyriadau tŷ gwydr yng Nghymru wedi codi 10% rhwng 2012 a 2013, a oedd yn sylweddol uwch na chenhedloedd eraill y DU,” meddai.
“Ni ddylai taclo newid hinsawdd gael ei weld fel rhwymedigaeth, ond fel cyfle i adeiladu economi cryfach a mwy gwyrdd yng Nghymru.