Fe fu sioe deithiol ‘Ymgyrch i Hybu Cig Cymru’ yng Nghaerfyrddin yr wythnos hon fel rhan o daith dros gyfnod o bedwar mis yng Nghymru a Lloegr. 

Fe fu’r ymgyrch yn ymweld ag archfarchnad Tesco, Caerfyrddin, yn cefnogi ac yn ysgogi gwerthiant o Gig Oen Cymru mewn archfarchnadoedd.

Mae’r sioe a’i chogyddion arbenigol yn ymweld â meysydd parcio archfarchnadoedd amrywiol er mwyn rhoi cyfle i siopwyr flasu amrywiaeth o seigiau Cig Oen Cymru sy’n flasus a hawdd eu coginio.

“Cafwyd ymateb gwych i’n hymgyrch ym mhobman, gan gynnwys Caerfyrddin,” meddai Dai Davies, Cadeirydd Hybu Cig Cymru. “Mae’r sioe’n cyd-redeg â hyrwyddiad newydd ar draws y diwydiant i geisio cefnogaeth ffermwyr a rhanddeiliaid i’n cynhyrchion Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru PGI.

“Roedd yn wych cael cefnogaeth cymuned amaethyddol Caerfyrddin yn ystod ein hymweliad a’r dref.”