Mae bachgen 16 oed wedi’i gyhuddo mewn cysylltiad â marwolaeth Bailey Gwynne, y bachgen a gafodd ei drywanu mewn ysgol uwchradd yn Aberdeen.

Fe ddioddefodd Bailey Gwynne, 16, anafiadau difrifol mewn digwyddiad yn Cults Academy yng ngorllewin y ddinas, am tua 1.30yp ddoe.

Bu farw beth amser wedyn yn ysbyty Inffyrmari Frenhinol y ddinas, ac fe gyhoeddwyd ymchwiliad yn syth.

Mae Heddlu’r Alban wedi cadarnhau fod bachgen 16 oed “wedi’i gyhuddo mewn cysylltiad â’r farwolaeth”.

Mae disgwyl i’r bachgen ymddangos gerbron Llys Siryf Aberdeen fory.