Mae’r cyhoedd yn “ofni” ail-wylltio, neu ddad-ddofi tir, oherwydd “iaith eithafol” gan “buryddion”, yn ôl Cyfarwyddwr Rewilding Britain, yr Athro Alastair Driver.
Roedd yr Athro Driver ymhlith y rheiny a fu’n rhoi tystiolaeth i un o bwyllgorau’r Senedd heddiw.
Mae grwpiau ail-wylltio, fel Rewilding Britain, yn ceisio trawsnewid tirweddau trwy blannu coed â chyflwyno rhywogaethau, a’r amcan yw lleihau ymyrraeth ddynol mewn llefydd gwledig.
Mae’r mater yn un tanllyd yng Nghymru, ac mi gefnodd Rewilding Britain ar gynllun yng nghanolbarth Cymru flwyddyn ddiwetha’ yn sgil gwrthwynebiad lleol.
Yn ystod sesiwn heddiw holodd Llŷr Gruffydd AoS pam bod y term ‘ail-wylltio’ wedi datblygu’n un mor “tocsig”.
Selogion yr ymdrech sydd ar fai am hynny, yn ôl y Cyfarwyddwr.
“Dw i’n credu mai iaith eithafol yr hyn dw i’n ei alw’n ‘puryddion ail-wylltio’ sy’n gyfrifol am hynny,” meddai.
“Cafodd [yr ymdrech ail-wylltio] ei danio rai blynyddoedd yn ôl mewn ffordd eitha’ profoclyd ac ymosodol,” meddai wedyn.
“Yr ochr dda i hynny oedd ei fod yn annog trafodaeth. Yr ochr ddrwg i hynny yw bod pobol yn ei ofni tamaid bach.”
Dywedodd ei fod yn teimlo bod pobol bellach yn ddigon ymwybodol o ail-wylltio, a bod dim angen profocio mwyach er mwyn ennyn sylw.
Cefnogaeth yng Nghymru?
Wrth gefnu ar gynllun ‘O’r Môr i’r Mynydd’, yng nghanolbarth Cymru, mi wnaeth Rewilding Britain gydnabod ei bod wedi methu ag egluro mai “cymunedau fyddai’n arwain” y prosiect.
Holodd Llŷr Gruffydd am yr hyn a oedd yn cael ei wneud i herio’r canfyddiad mai prosiectau ‘o’r top i lawr’ – nid wedi eu gwreiddio yn gymuned – yw prosiectau ail-wylltio.
Ni wnaeth y Cyfarwyddwr ateb hynny’n uniongyrchol, ac yn lle mi aeth ati i dynnu sylw at boblogrwydd diweddar Rewilding Britain.
Dros y pythefnos diwethaf, dywedodd bod 21 perchennog tir graddfa fach a dau berchennog tir graddfa ganolig (rhwng 250 a 1,500 erw) yng Nghymru wedi cysylltu i fynegi diddordeb.
“Felly mae yna bobol mas yna sydd â diddordeb,” meddai. “Ac mae’n rhaid i ni ddilyn lan ar hynny. Dw i’n cydnabod fy mod i wedi esgeuluso Cymru.
“Dw i wedi canolbwyntio ar Loegr gan fod cymaint o alw … Mae perchnogion tir yn dweud wrtha’ i eu bod [ynghlwm â’n gwaith] yn rhannol gan mai dyna’r peth iawn i’w wneud.
“A does gen i ddim amheuaeth bod yna lawer [o berchnogion tir] tebyg yng Nghymru hefyd.”
Mi wnaeth Joyce Watson AoS holi cwestiwn uniongyrchol am ‘O’r Mynydd i’r Môr’, ond dywedodd Alastair Driver ei fod methu rhoi atebion am “brosiectau penodol”.
Pryder am yr “agenda gwyrdd”
Un arall a oedd yn rhoi tystiolaeth gerbron y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig oedd y cynghorydd sir, Elwyn Vaughan.
Ef yw Arweinydd Plaid Cymru ar Gyngor Powys, ac yn siarad â Golwg yr wythnos hon mae wedi dweud ei fod yn dal i bryderu mai pobol ddinesig sy’n gyrru’r “agenda gwyrdd”.
“Y peryg ydy bod gormod o’r agenda gwyrdd yn cael ei yrru gan bobol o lefydd mwy trefol a dinesig sydd ddim o reidrwydd yn deall natur cefn gwlad a’r gymuned amaethyddol,” meddai.
“A ddim yn deall hefyd, yn aml iawn, gymaint o waith amgylcheddol sydd eisoes yn cael ei wneud gan ffermwyr. Yn arbennig yn yr ucheldir. A dyna’r eironi mawr.”