Mae’r galw am gig oen o Gymru yng ngwledydd y Dwyrain Canol wedi cynyddu’n aruthrol yn 2013, wedi ymweliadau masnach.

Yn ôl ffigurau newydd gan Hybu Cig Cymru, mae allforion cig oen i fyny 185% yn neufis cyntaf 2013, o’i gymharu â’r un cyfnod yn 2012.

Dywedodd Gwyn Howells, prif weithredwr Hybu Cig Cymru, bod ymweliad â ffair fwyd Gulfood yn Dubai wedi rhoi llwyfan i gynnyrch Cymru yn y Dwyrain Canol.

“Cafwyd cynnydd o 56% yn y fasnach i un mân-werthwr yn yr Emiraethau Arabaidd Unedig yn 2012 o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol.  Ond yn ystod deufis cyntaf 2013 yn unig, mae cyfaint Cig Oen Cymru a gafodd ei allforio i’r mân-werthwr hwn wedi cynyddu 185% mewn cymhariaeth â’r cyfnod cyfatebol yn 2012.

“Mae hyn yn newyddion rhagorol ac yn dangos yn glir fod yna alw cynyddol am gig oen Cymru ffres ac o ansawdd yn y rhan yma o’r byd.”

Sicrhau cysylltiadau

Mae Hybu Cig Cymru a chwmnïau eraill o Gymru nawr yn ceisio sicrhau mwy o gysylltiadau yn Saudi Arabia, Kuwait ac Oman, yn dilyn taith i Gymru gan gynrychiolwyr o’r gwledydd y mis diwethaf.

Cawson nhw weld nifer o ffermydd a lladd-dai, a phrofi dulliau o fagu anifeiliaid a chynhyrchu cig o safon uchel.

“Mae allforion yn rhan hollbwysig o’r diwydiant cig coch yng Nghymru oherwydd mae’n cyfoethogi cymunedau cefn gwlad yng Nghymru ac yn hybu ein heconomi yn gyffredinol,” meddai Gwyn Howells.