Mae’r Canghellor Jeremy Hunt wedi “methu cydnabod y problemau economaidd difrifol” sy’n wynebu gwledydd Prydain, medd un economegydd.
Rhai o’r prif bwyntiau gafodd eu cyhoeddi yn y Gyllideb ddoe (Mawrth 6) oedd cwtogi’r Yswiriant Gwladol ac ymestyn budd-daliadau plant i fwy o deuluoedd.
Fe wnaeth Jeremy Hunt hefyd gyhoeddi bod y trothwyon er mwyn dechrau talu treth incwm ac yswiriant gwlad yn aros yr un fath – sy’n golygu y bydd pobol yn talu trethi uwch wrth i’w hincwm godi.
Bydd y system dreth ar gyfer pobol sydd â’u cartref parhaol wrth dalu trethi y tu allan i’r Deyrnas Unedig (non-dom) yn newid hefyd.
‘Mewn dirwasgiad’
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig hefyd wedi cyhoeddi eu bod nhw am brynu safle pwerdy niwclear Wylfa ar Ynys Môn, “sy’n bwynt gwleidyddol eglur”, meddai’r economegydd Dr John Ball.
“Mae’r Canghellor wedi methu cydnabod y problemau economaidd difrifol sy’n wynebu’r Deyrnas Unedig a thrwy hynny, Cymru,” meddai Dr John Ball, cyn-ddarlithydd mewn Economeg ym Mhrifysgol Abertawe, wrth golwg360.
“I ddechrau, mae’r Deyrnas Unedig mewn dirwasgiad, mae awgrymu y bydd twf o 2% mewn blwyddyn ar ôl dirwasgiad sydd wedi para dau chwarter yn amhosib, yn sicr gyda’r mesurau sydd wedi cael eu cyhoeddi ddoe.
“Y ffordd allan o ddirwasgiad ydy annog pobol i wario.
“Ni fydd cwtogi Yswiriant Gwladol yn helpu hynny, mae’r Yswiriant Gwladol yn ganran o incwm, felly fydd e ddim yn gwneud llawer o wahaniaeth i bobol ar gyflogau isel – ac mae nifer ohonyn nhw yng Nghymru.
“Cwtogi’r dreth incwm fyddai’r unig ffordd o wneud hynny.”
Dan y gyllideb newydd bydd Yswiriant Gwladol yn cael ei gwtogi gan 2c i bob punt.
‘Diffyg dealltwriaeth economaidd’
Bydd y trothwy y mae’n rhaid i fusnesau bach ei gyrraedd er mwyn cofrestru i dalu Treth ar Werth (TAW) yn cynyddu o £85,000 i £90,000 ym mis Ebrill.
“Ni fydd y rhan fwyaf o’r mesurau eraill yn cael lawer o effaith ar yr economi, er y bydd cynyddu drothwy Treth Ar Werth (TAW) yn helpu rhai busnesau i leihau baich gweinyddol,” medd Dr John Ball.
“Yn yr un ffordd, gallai’r cynnydd mewn budd-daliadau plant helpu teuluoedd ar incwm is, ond rhaid cofio nad ydy’r budd-daliadau’n cael eu talu’n awtomatig a bod rhaid gwneud cais a chael eich asesu amdanyn nhw.”
Bydd budd-daliadau plant llawn yn cael eu rhoi i aelwydydd lle mae’r rhiant ar y cyflog uchaf yn gwneud hyd at £60,000 o gymharu â’r £50,000 presennol. Fe fydd rhywfaint o fudd-daliadau plant yn cael eu rhoi i aelwydydd lle mae’r rhiant ar yr incwm uchaf yn gwneud hyd at £80,000 hefyd.
“Gallai’r rhaglen credyd treth ar gyfer busnesau gyda chyllideb o lai na £15m helpu busnesau bach, ac mae nifer o’r rheiny yng Nghymru hefyd,” ychwanega Dr John Ball.
“Fodd bynnag, dydy hi ddim yn glir sut fydd hyn yn gweithio, a does dim eglurhad o’r hyn mae ‘cyllideb’ yn ei olygu yma.
“Roedd y gyllideb yn cynnwys tri nod gwleidyddol clir; mae angen croesawu’r ymestyn ar y dreth ffawdelw er gwaetha’r lobïo gan y diwydiant.
“Fodd bynnag, dydy hi ddim yn glir sut y byddan nhw’n mynd i’r afael â’r system dreth non-dom ac mae e wedi cael ei adael yn addas o annelwig, yn wahanol i’r gostyngiad mewn trethi ar enillion cyfalaf, ond fydd y naill na’r llall yn gwneud llawer o wahaniaeth i Gymru.
“Fe fydd rhewi’r dreth ar danwydd yn cael ei groesawu, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.”
Wrth gyhoeddi’r Gyllideb, soniodd Jeremy Hunt am ei gynlluniau i ostwng y Ddyled Genedlaethol o tua £9bn erbyn 2028. Mae’r cyhoeddiad yn “dangos diffyg dealltwriaeth economaidd syfrdanol”, meddai’r economegydd.
“Does yna’r un canghellor erioed wedi llwyddo i ostwng y ddyled genedlaethol.”