Mae elusen Diwrnod y Llyfr yn cynnal ei dathliad blynyddol ddydd Iau (7 Mawrth), a bydd plant ledled y wlad yn derbyn tocyn llyfr £1 i’w gyfnewid am lyfr arbennig am ddim eto eleni.

Gellir defnyddio’r daleb er mwyn cael £1 oddi ar lyfrau arall, sydd ddim yn rhan o gasgliad o lyfrau £1 Diwrnod y Llyfr hefyd.

Y llyfr Cymraeg eleni yw Ffeithiau Ffiaidd: Y Corff sydd wedi ei gefnogi gan y Cyngor Llyfrau.

Wedi’i ysgrifennu a’i ddylunio gan Kev Payne, mae’r llyfr gweithgaredd yn llawn ffeithiau, posau a gemau sy’n mynd â’r darllenydd ar daith i archwilio’r corff dynol “ffiaidd ac afiach”.

Fe addaswyd y llyfr i’r Gymraeg gan yr awdur a’r bardd Mari George.

“Dw i mor falch bod fy addasiad Ffeithiau Ffiaidd: Y Corff wedi cael ei ddewis fel llyfr Cymraeg ar gyfer Diwrnod y Llyfr 2024,” meddai.

“Gobeithio y bydd yn ysbrydoli plant i fynd ati i ddarllen llyfrau eraill – rhywbeth rwy’n teimlo’n angerddol amdano.”

“Ysbrydoli cariad ar ddarllen”

Yn ôl Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru, mae’n gobeithio bydd y bartneriaeth â Diwrnod y Llyfr yn sicrhau bod llyfrau ar gael i bob plentyn ac yn “ysbrydoli cariad at ddarllen.”

“Mae addasiad gwych Mari George o Ffeithiau Ffiaidd: Y Corff yn siŵr o blesio darllenwyr ifanc,” meddai.

Mae tri llyfr Cymraeg arall ar gael am £1 eleni hefyd sef Lledrith yn y Llyfrgell gan Anni Llŷn, Ha Ha Cnec! gan yr awdur a’r darlunydd Huw Aaron, a Gwisg Ffansi Cyw hefyd gan Anni Llŷn.

Mae pob un o’r llyfrau ar gael i’w prynu o siopau llyfrau lleol.

Dywedodd Cassie Chadderton, Prif Weithredwr Diwrnod y Llyfr, mai eu nod ar gyfer eleni yw dod â’r hwyl o ddarllen i fwy o blant ac i annog pawb i ddarllen fel maen nhw eisiau.

“Mae llai o blant a theuluoedd yn mwynhau darllen, yn union pan fod angen y buddion sy’n newid eu bywydau fwyaf,” meddai.

“Rydym yn hyderus y bydd y llyfrau hwyliog ac ysbrydoledig hyn yn tanio diddordeb plant mewn darganfod mwy o lyfrau a darllen er pleser!”

Gallwch ddarganfod mwy am lyfrau £1 Diwrnod y Llyfr ar wefan worldbookday.com.