Mae’r argyfwng costau byw yn gysylltiedig ag “argyfwng cyflogau”, medd swyddog polisi TUC Cymru, corff sy’n ceisio gwella amodau economaidd a chymdeithasol gweithwyr.
Yn ôl Ceri Williams, dydy isafswm cyflog o £9.50 yr awr ddim yn ddigon i fyw arno, yn enwedig o ystyried chwyddiant a chostau byw cynyddol.
Fe wnaeth TUC lansio ymgyrch i gynyddu’r isafswm cyflog i £15 yr awr dros y Deyrnas Unedig yr wythnos ddiwethaf, a chafodd yr ymgyrch groeso cymysg.
Ond, yn ôl Ceri Williams, mae TUC Cymru am weld newid hirdymor yn yr economi fyddai’n “creu sefyllfa lle mae cwmnïau bach yn medru fforddio talu’u gweithwyr yn gywir”.
Mae hi’n “gynyddol bwysig” bod yr isafswm cyflog yn codi, meddai wrth golwg360
“Rydyn ni wedi cael cyfnod hir nawr lle mae cyflogau wedi bod yn cwympo mewn termau go iawn os ydych chi’n cynnwys chwyddiant,” meddai Ceri Williams.
“Mae gweithwyr ym Mhrydain yn ennill £88 yn llai mewn cyfraddau go iawn nawr nag oedden nhw yn 2008.
“Mae lot mwy o bobol sydd yn gweithio ond sy’n byw mewn tlodi, a dylai hwnna ddim digwydd. Dylai bod cyflogau yn gyflogau byw, bod pobol yn medru cael llety, gwres, bwyd digonol, trydan digonol i’w tai. Dyw hwnna ddim yn digwydd erbyn hyn efo cyflogau isel ac isafswm cyflog sydd ddim yn ddigonol i bobol fyw arno.
“Mae mwy a mwy o ddicter o safbwynt gweithwyr eu bod nhw ddim yn cael cyflog sydd yn gymwys nag yn ddigon i fedru magu teulu arno.”
‘Cynllun hirdymor’
Wrth ystyried dadl perchnogion busnesau sy’n poeni am effaith newid yr isafswm cyflog, dywedodd Ceri Williams fod hwnnw’n “bwynt teg”.
“Does dim pwynt bod busnesau’n mynd i’r wal os ydyn nhw ffaelu ymateb i’r galw hwn,” meddai.
“Dyna pam rydyn ni’n gofyn am gynllun hirdymor i’r perwyl yma i fedru gweld cyflogau’n codi.
“Rydyn ni eisiau gweld cynllun i hybu twf yn yr economi yn yr hirdymor. Ar y funud, mae gennym ni economi sydd ddim yn tyfu ar y gyfradd fuodd hi’n hanesyddol.
“Tan 2008 a’r argyfwng ariannol, roedd yr economi yn tyfu ac roedd cyflogau hefyd yn codi ar yr un gyfradd. O 1970 i 2007 roedd cyfraddau cyflog yn codi ar gyfradd o 33% y degawd.
“Felly mae eisiau i Lywodraeth Prydain a chwmnïau mawrion ganolbwyntio mwy ar fuddsoddiadau tymor hir o ran buddsoddiadau mewn ffatrïoedd tymor hir, buddsoddiadau mewn isadeiledd, hynny yw’r rheilffyrdd a gwella’r heolydd sydd gennym ni.
“Hefyd mae eisiau i’r llywodraeth a busnesau mawrion wario mwy ar hybu sgiliau, bydd hwnna’n arwain at dwf economaidd.
“Mae eisiau newid y rheolau hefyd fel bod y farchnad stoc ddim yn canolbwyntio ar newidiadau dros dro a thrio gwneud pres cyflym, ond bod yna fwy o bwyslais ar fuddsoddi er mwyn y dyfodol.
“Mae eisiau newid yr economi ymhob ffordd, gyda’r pwyslais ar unedau mawrion sy’n medru buddsoddi mewn ymchwil i wella’u cwmnïau a hefyd ar lywodraeth Prydain a Chymru i fuddsoddi mewn isadeiledd.
“Yn y cyd-destun yna, byddai yna dwf economaidd a byddai cwmnïau bach yn medru elwa ar hynny os ydyn nhw’n cyflenwi cwmnïau mwy neu’n cyflenwi’r llywodraeth.
“Felly mae hwn yn gynllun tymor hir ac rydyn ni eisiau creu sefyllfa lle mae cwmnïau bach yn medru fforddio talu’u gweithwyr yn gywir.”
Dilyn esiampl y sector gofal
Ers mis Ebrill eleni, mae gweithwyr yn y sector gofal yng Nghymru’n cael y Cyflog Byw Gwirioneddol, sy’n uwch na’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol, ac mae hwn yn batrwm y dylid ei efelychu yn ehangach, medd Ceri Williams.
“Rydyn ni’n falch o weld be mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud, ac mae yna esiampl dda o be ddylid ei wneud ar lefel Prydeinig ac mewn sectorau eraill.
“Mae hwnna’n gam ymlaen pwysig a sylweddol. Gwnaethpwyd hynny drwy ddod â’r undebau, y cyflogwyr gofal a’r llywodraeth at ei gilydd gyda thrafodaethau cenedlaethol i drafod sut byddai modd gwneud hyn drwy gefnogi cyflogwyr bychan a’r awdurdodau lleol.
“Cam wrth gam a thrwy roi mwy o rym i weithwyr drwy eu hundebau, mae hyn yn gam pwysig i wella amodau i weithwyr gofal yng Nghymru.
“Byddan nhw nawr, ar gyfartaledd, yn ennill mwy na gweithwyr yn Lloegr. Wrth gwrs, dylai gweithwyr yn Lloegr gael yr un fath, ac mae hwn yn dangos esiampl o be ellir ei wneud a Llywodraeth Cymru yn defnyddio’u grym er mwyn annog yr awdurdodau lleol i gomisiynu gwaith teg.
“Mae yna elfennau yn y patrwm yna yr hoffwn i weld yn cael eu hehangu i sectorau eraill, i weithwyr dros Brydain.
“Jyst cam i’r cyfeiriad cywir yw e o ran gweithwyr gofal achos hoffwn i weld nhw’n ennill mwy hefyd.
“Ond dyma’r fath o broses, drwy roi mwy o rym i weithwyr a thrwy drafod ar y cyd a defnyddio grym llywodraeth i gomisiynu gwaith gwell – dyna sut allwn ni gyrraedd £15 yr awr o ran isafswm cyflog.”