Mae mudiadau a phleidiau sydd o blaid annibyniaeth i Gymru yn galw am roi’r hawl i’r wlad gynnal refferendwm heb orfod cael caniatâd San Steffan.
Wrth ysgrifennu at y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru, mae’r mudiadau yn dweud y dylai cefnogaeth mwyafrif aelodau Senedd Cymru fod yn ddigon i gael cynnal refferendwm ar annibyniaeth.
Mae’r llythyr, sydd wedi cael ei lofnodi gan Melin Drafod, Plaid Werdd Cymru, Llafur dros Gymru Annibynnol, Plaid Cymru, Pawb Dan Un Faner Cymru, Undod, Cymdeithas yr Iaith, ac YesCymru, yn dweud bod angen “proses a mecanwaith eglur” er mwyn cynnal pleidlais.
Ar hyn o bryd, mae Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru’n cynnal sgwrs genedlaethol ynglŷn â’r ffordd y caiff Cymru ei rhedeg ac mae’n bosib i bobol ddweud eu dweud tan fory (Awst 31).
‘Heb ymyrraeth San Steffan’
“Mae Cymru ar daith at annibyniaeth; ac rydyn ni am hwyluso’r ffordd i ddyfodol annibynnol blaengar,” meddai’r grwpiau mewn llythyr agored at y Comisiwn.
“Fel mudiadau a phleidiau unigol, mae gennym amryw o safbwyntiau ar fanylion gwaith eich Comisiwn.
“Ysgrifennwn ar y cyd er mwyn tanlinellu un egwyddor benodol sydd gennym yn gyffredin: hawl sylfaenol pobl Cymru i benderfynu eu statws cyfansoddiadol eu hunain.
“Yn nhermau gwaith eich Comisiwn, galwn felly am yr hawl i Gymru, drwy ei Senedd etholedig, benderfynu a ddylai fod yn wlad annibynnol ai peidio, a hynny heb ymyrraeth gan San Steffan.
“Dylai fod proses a mecanwaith eglur a fydd yn caniatáu i Gymru gynnal refferendwm ar annibyniaeth.
“Dylai amseriad a manylion cysylltiedig y bleidlais honno fod yn faterion i bobl Cymru a’u Senedd benderfynu arnyn nhw, nid San Steffan.
“Rydyn ni wedi gweld canlyniadau difrifol yn deillio o ddiffyg eglurder a hawliau is-wladwriaethau fel Catalwnia sydd mewn sefyllfa debyg.
“Mae perygl y bydd rhywbeth tebyg yn digwydd yma os nad yw Goruchaf Lys y Deyrnas Gyfunol, yn ddiweddarach eleni, yn amddiffyn hawliau sylfaenol yr Alban i gynnal refferendwm yn unol â’r mwyafrif o blaid hynny yn ei deddfwrfa.
“Galwn felly arnoch chi i ddatgan yn glir y dylai mwyafrif yn Senedd Cymru fod â’r grym dilyffethair i gynnal refferendwm ar annibyniaeth i Gymru.”