Mae ymchwil sy’n olrhain ymgysylltiad y cyhoedd gyda thlodi byd-eang a datblygu cynaliadwy wedi canfod bod Cymru’n fwy ymgysylltiedig na gweddill gwledydd Prydain.

Yn ôl yr ymchwil, mae 22% o gyhoedd Cymru yn ‘Ymgysylltu’n Bwrpasol’ â’r materion hyn, o gymharu â 19% yng ngweddill gwledydd Prydain.

Comisiynodd Hub Cymru Africa, partneriaeth sy’n cefnogi Cymuned Cymru Affrica, yr ymchwil i ddeall yr hyn sy’n ysgogi pobol i feithrin undod byd-eang a’r hyn sy’n bwysig i Gymru fel cenedl.

Dangosa’r ymchwil bod 63% o bobol Cymru’n pryderu neu’n pryderu’n ddybryd am lefelau tlodi mewn gwledydd tlawd, ac mae 58% yn meddwl y dylid cadw at y gyllideb cymorth gyfredol Llywodraeth San Steffan, neu ei chynyddu.

Mae’r gefnogaeth wedi cynyddu’n sylweddol ers y toriadau i’r gyllideb cymorth ym mis Ebrill 2021, o 44% ym mis Ionawr 2021 i 57% ym mis Mehefin 2022.

Byddai 34% o’r cyhoedd yng Nghymru’n debygol o brynu neu wrthod prynu nwyddau yn sgil cysylltiad y cynnyrch neu’r cynhyrchwyr â thlodi byd-eang, o gymharu â 31% yn Lloegr a’r Alban.

Gofalgar a thosturiol

Dywed Claire O’Shea, pennaeth Partneriaeth Hub Cymru Africa: “Dengys yr ymchwil yr hyn rydym eisoes yn ei wybod, bod Cymru’n genedl ofalgar a thosturiol.

“Mae ein gwaith a’n partneriaethau gyda chymuned Cymru ac Affrica yn golygu ein bod yn gweld ac yn cefnogi llawer o sefydliadau ac unigolion anhygoel sy’n integreiddio yn eu cymunedau ac yn gwneud gwahaniaeth go iawn.

“Mae llawer o sefydliadau Affricanaidd yn ffynnu yng Nghymru oherwydd eu bod yn cael mynediad a chymorth er mwyn llwyddo, ynghyd â’r penderfyniad i wella llesiant eu cymuned a dod ag Affrica i Gymru.”