Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig wedi talu teyrnged i’r cyn-Aelod Cynulliad Mick Bates yn dilyn y newyddion ei fod wedi marw yn 74 oed.

Cafodd Mick Bates, fu’n wael â chanser, ei ethol i gynrychioli Sir Drefaldwyn yn etholiadau cyntaf Cynulliad Cymru yn 1999 a buodd yn aelod tan 2011.

Cyn dod yn Aelod Cynulliad, bu Mick Bates yn gweithio fel athro, fel ffermwr ac fel Cynghorydd Sir dros y Democratiaid Rhyddfrydol.

Dywedodd Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Jane Dodds: “Roedd Mick yn un o’r bobol fwyaf croesawgar a charedig roeddwn i’n ei adnabod.

“Pan gyrhaeddais y Trallwng am y tro cyntaf bron i ddeng mlynedd yn ôl, roedd mor hael â’i amser gyda mi.

“Roedd ei wybodaeth am y materion sy’n effeithio ar ei annwyl Sir Drefaldwyn yn ddiddiwedd. Roedd yn unigryw – ni fydd Mick Bates arall fyth.

“Mae ein meddyliau a’n gweddïau gyda’i wraig Buddug, ei blant Ruth a Daniel, a’i bum ŵyr bendigedig, ynghyd â gweddill ei deulu a’i ffrindiau.”

‘Llawn egni a brwdfrydedd’

Meddai’r Aelod o’r Senedd Ceidwadol dros Sir Drefaldwyn, Russell George: “Trist darllen am farwolaeth Mick Bates. Yn ogystal â bod yn ddyn teulu a llawer mwy, fe wnaeth Mick gynrychioli Sir Drefaldwyn yn y Senedd rhwng 1999 a 2011.

“Roedd Mick yn ddyn llawn egni a brwdfrydedd.

“Cydymdeimladau dwysaf â’r teulu.”

‘Ymgyrchydd diflino’

Roedd Mick Bates yn adnabyddus am fod yn ymgyrchydd diflino dros gymunedau gwledig, ac roedd ddegawdau o flaen ei amser o ran galw am weithredu i fynd i’r afael â newid hinsawdd.

Bu hefyd yn cynhyrchu a chyflwyno rhaglen ffermio Radio Maldwyn a threfnu cynllun i fyfyrwyr ymweld â ffermydd, ynghyd â helpu i sefydlu Montgomeryshire Rural Enterprises ym 1997.

Tra’n Aelod o’r Cynulliad, fe ymgyrchodd Mick Bates am arian ychwanegol i ysgolion gwledig er mwyn helpu i sefydlu cronfa ysgolion bach ac ymladdodd am well isadeiledd yn y canolbarth.

Syniad Mick Bates oedd cynllun Cyswllt Ffermio, sef gwasanaeth cynghori busnes rhad am ddim sy’n helpu ffermwyr ledled Cymru.

Yn ystod ei gyfnod fel Aelod Cynulliad, bu’n un o sefydlwyr Grŵp Ynni Cynaliadwy trawsbleidiol y Cynulliad Cenedlaethol (NASEG), sy’n ceisio hyrwyddo datblygiad diwydiant ynni cynaliadwy yng Nghymru, hefyd.