Am y tro cyntaf ers 2019, mae’r ŵyl Drysau Agored yn cael ei chynnal yn llawn fis nesaf, gyda mwy na 200 o ddigwyddiadau treftadaeth rhad ac am ddim yn cael eu cynnig mewn safleoedd treftadaeth anarferol a chudd ledled Cymru, gan gynnwys y safleoedd hynny sydd fel arfer â thâl mynediad.

I nodi’r achlysur heddiw (dydd Mawrth, Awst 30), bydd Drysau Agored yn cael ei lansio’n swyddogol yn ninas hynafol Tyddewi, sy’n enwog am harddwch urddasol ei Heglwys Gadeiriol a’i statws fel dinas leiaf Cymru a’r Deyrnas Unedig.

Fel rhan o ŵyl Drysau Agored, bydd Tyddewi yn dod yn fyw gyda straeon llai adnabyddus am y lle fu’n gartref i nawddsant Cymru yn y chweched ganrif, gyda mynediad yn cael ei roi am y tro cyntaf i’r cyfryngau i borthdy canoloesol y ddinas, y lapidariwm a thŵr y gloch.

Bydd teithiau ‘hanes cudd’ yn cael eu cynnig yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi, a bydd modd gweld saethiadau o Lys yr Esgob hefyd.

Bydd ymwelwyr hefyd yn cael y cyfle i weld cyfres o 12 paentiad canoloesol o’r ddeuddegfed a’r bedwaredd ganrif ar ddeg sydd heb eu gweld erioed o’r blaen ar y teledu.

Gan ddychwelyd i fel ag yr oedd cyn y pandemig, bydd rhaglen gŵyl Drysau Agored eleni yn annog ymwelwyr o bob oed i ddatgelu straeon llai adnabyddus o hanes Cymru, ac i ymdrochi yn niwylliant, chwedlau a chyfrinachau hanesyddol Cymru sydd ar garreg eu drws.

Lleoliadau Drysau Agored

O eglwysi i gapeli, ac o amgueddfeydd i safleoedd archaeolegol, bydd modd ymweld ag amrywiaeth eang o leoliadau yn ystod mis Medi.

Ym mis Medi eleni, bydd mwy na 200 o safleoedd hanesyddol, tirnodau a pherlau cudd Cymru yn cynnig mynediad, digwyddiadau neu deithiau tywys am ddim i ymwelwyr.

Mae’r cyfan yn rhan o wŷl Drysau Agored — cyfraniad blynyddol Cymru i’r fenter Diwrnodau Treftadaeth Ewropeaidd, sy’n gwahodd sefydliadau treftadaeth, perchnogion preifat, awdurdodau lleol ac eraill i agor eu drysau neu gynnig gweithgareddau i’r cyhoedd yn rhad ac am ddim yn ystod mis Medi.

Wedi’i hariannu a’i threfnu gan Cadw, bydd gŵyl boblogaidd treftadaeth adeiledig Cymru eleni yn annog trigolion Cymru a’i hymwelwyr i ddarganfod rhai o safleoedd y wlad sy’n llai adnabyddus ac yn llai o ran maint ― gyda nifer ohonynt fel arfer ar gau i’r cyhoedd.

Fel rhan o hyn, bydd nifer o safle Cadw yn ymddangos ar y rhaglen o ddigwyddiadau ar gyfer Drysau Agored 2022.

Bydd digwyddiadau wedi’u trefnu yn cael eu cynnal ar safleoedd Cadw ar ddyddiadau penodol yn unig ― gyda nifer cyfyngedig o leoedd ar gael ar gyfer pob digwyddiad.

Mae modd gweld yr holl leoliadau sydd â Drysau Agored trwy fynd i Open Doors Events | Cadw (llyw.cymru)