Mae angen gwneud mwy i sicrhau nad yw cynghorwyr yn cael eu sarhau, meddai’r Ceidwadwyr Cymreig.

Daw’r sylwadau ar ôl gynghorwyr gael eu bygwth a’u sarhau gan brotestwyr yn oriel Cyngor Gwynedd yr wythnos ddiwethaf.

Fe wnaeth protest yn erbyn polisi addysg rhyw newydd Llywodraeth Cymru droi’n flêr, a bu’n rhaid i’r heddlu ymyrryd a chafodd y cynghorwyr eu dal yn ôl yn siambr y cyngor am “resymau diogelwch”.

Cafodd cyfarfod ei alw gan bump o gynghorwyr a oedd yn honni y gallai’r cynllun addysg rhyw newydd, sydd wedi cael ei gymeradwyo gan y Senedd gyda chefnogaeth yr NSPCC, y Comisiynydd Plant a Chymorth i Ferched ac wedi cael ei greu gan arbenigwyr yn y maes, fod â “goblygiadau sylweddol iawn i’r rhieni a’r plant, yn ogystal ag i’n hathrawon, ein hetholwyr a’r Cyngor”.

“Dylai rhieni gael bob hawl, yn ein barn ni, i ddewis be sy’n addas i addysg eu plant yn unol â’u hoedran,” meddai Sam Rowlands, llefarydd llywodraeth leol y Ceidwadwyr Cymreig.

“Rhieni ddylai gael y dweud olaf ar addysg am berthnasau, nid y wladwriaeth.

“Fodd bynnag, yn yr achos hwn, mae angen gwneud mwy i atal cynghorwyr rhag cael eu sarhau.

“Mae angen i gynghorwyr dderbyn cefnogaeth wrth gyflawni eu dyletswydd yn cynrychioli cymunedau lleol.

“Dw i’n falch bod y cyfarfod wedi gallu parhau ar ôl yr amharu, ond mae’n bryder clywed bod ofnau am ddiogelwch y cynghorwyr.

“Mae rhyddid mynegiant yn hanfodol er mwyn i ddemocratiaeth leol allu gweithio a dylid clywed pob llais.”

‘Camarweiniol’

Yn ystod y brotest, fe wnaeth rhai rhieni fygwth tynnu eu plant o ysgolion.

Roedd taflen gafodd ei dosbarthu gan y grŵp Diogelu Plant Cyhoeddus Cymru yn honni y gallai’r cwricwlwm gyflwyno plant ifanc i syniadau megis “mastwrbio, bondio a rhyw rhefrol (anal)“.

Fodd bynnag, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod y daflen yn “llawn camwybodaeth a honiadau anghywir”, a dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog Addysg Cymru, y dylai “unrhyw un sy’n bryderus am y mater ddarllen y Cod a’r canllaw statudol i weld drostynt eu hunain pa mor gamarweiniol a di-sail yw honiadau’r grŵp”.

“Fel sy’n digwydd yn y Cyfnod Sylfaen ar hyn o bryd, bydd ein dysgwyr ifancaf yn dysgu am gyfeillgarwch a theuluoedd, a byddan nhw’n bendant iawn ddim yn dysgu am berthynas ramantaidd neu rywiol,” meddai.

“Gwaherddir hyn gan y Cod. Mae’r gyfraith yn hollol glir: rhaid i’r ACRh a ddysgir fod yn gwbl briodol i ddatblygiad pob plentyn.

“Rwy’n bleidiol iawn i’r broses ddemocrataidd a hawl pobl i brotestio a phwysigrwydd gallu troi at y gyfraith i ddwyn llywodraethau i gyfrif am eu penderfyniadau.

“Ond mae tactegau ymosodol y grŵp hwn i bwyso ar y bobol sy’n gweithio yn ein Hawdurdodau Lleol a’n hysgolion yn fy arswydo.

“Diben ACRh yw cadw plant yn ddiogel: rhag perthnasoedd a sefyllfaoedd a allai eu niweidio, yn enwedig ar-lein.

“Mae plant heddiw’n gorfod delio â phwysau nad oeddem ni’n gwybod amdanyn nhw pan oeddem ni’n blant. Ni allwn anwybyddu’r peryglon hyn.

“Mae gwir berygl i’r honiadau a wneir gan y grŵp wneud niwed go iawn i’n plant ifanc wrth i’r grŵp geisio eu rhwystro rhag cael yr addysg hanfodol hon allai eu diogelu yn y dyfodol.”

“Gwarthus, trist ac anghyfrifol”: Ymateb chwyrn i brotest yn oriel Cyngor Gwynedd

Huw Bebb

“Pan mae pobol yn dechrau ymddwyn fel yna, dwyt ti ddim yn gwybod be wneith neb”